Bydd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn derbyn taliad bonws £735.
Mae disgwyl y bydd 221,945 o bobl yng Nghymru yn elwa ar y taliad, gan gynnwys 103,600 o staff gofal cymdeithasol, 90,000 o staff GIG Cymru a 2,345 o fyfyrwyr ar leoliadau.
Daeth y cyhoeddiad gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, mewn cynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd y prynhawn yma.
Bydd rhan fwyaf o staff yn derbyn swm yn agosach at £500 yn y pendraw oherwydd trethi ac ati,
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae staff y Gwasanaeth Iechyd a staff gofal cymdeithasol Cymru wedi ymroi’n llwyr ac yn ddewr i’w gwaith, yn ddi-baid o ddechrau’r pandemig hyd yr ail don bresennol,” meddai Vaughan Gething.
“Bydd y pandemig wedi effeithio’n fawr ar eu hiechyd corfforol a meddyliol ac ar eu lles yn eu bywydau personol a phroffesiynol.
“Mae’r taliad hwn yn ffordd o ddiolch i’n gweithlu yn y Gwasanaeth Iechyd ac ym maes gofal cymdeithasol am eu cyfraniad eithriadol i ddiogelu Cymru.”
Geiriau hallt am Lywodraeth y DU
Yn ystod y sesiwn â newyddiadurwyr tynnwyd sylw at alwadau am godiad cyflog i weithwyr iechyd, a holwyd os oedd bonws yn siomedig yn hynny o beth.
“Dw i wedi gwneud hyn yn glir, ac mi wna’i ailadrodd hyn eto, dyw’r bonws yma ddim yn cael ei rhoi i weithwyr yn lle codiad cyflog,” meddai brynhawn heddiw. “Mae hyn ar ben hynny.
“Mae hyn ar ben y camau dw i wedi eu cymryd er mwyn sicrhau bod staff y GIG yn profi cynnydd cyflog i lefel y cyflog byw gwirioneddol.”
Dros Glawdd Offa mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gofyn i Gorff Adolygu Cyflogau’r GIG am godiad cyflog o 1% i nyrsys a staff eraill y GIG yn Lloegr.
Ac mae Vaughan Gething wedi galw hyn yn “sarhad (kick in the teeth)” i weithwyr iechyd Lloegr.
Bydd y mater yn destun dadl, dan arweiniad Plaid Cymru, yn y Senedd brynhawn heddiw. Mae’r Blaid wedi galw’r codiad i staff Lloegr yn “gwbl annigonol”.
Ymateb i’r taliad bonws
Mae Cadeirydd BMA Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad yn “gydnabyddiaeth o waith caled” doctoriaid, ond yn awyddus bod doctoriaid yn derbyn codiad tâl.
“Er ein bod yn ddiolchgar o’r taliad yma, mae hyn ar wahân ac ar ben y broses DDRB (Doctors’ and Dentists’ Remuneration Review),” meddai Dr David Bailey.
“Adolygiad o dâl blynyddol doctoriaid yw’r broses hwnnw. Rydym yn atseinio ein galwad am gynnydd tâl i ddoctoriaid a fydd yn mynd i’r afael â dirywiad tâl dros y ddegawd ddiwethaf.”
Mae undeb Unison hefyd wedi croesawu’r taliad, ac wedi cyferbynnu gweithgarwch y Llywodraeth yng Nghaerdydd â gwaith y Llywodraeth yn San Steffan.
“Dyma hwb amserol i staff GIG a gofal sydd wedi blino, ac sy’n derbyn cyflogau isel,” meddai Paul Summers, prif swyddog Unison Cymru tros iechyd.
“Mae gweithredoedd Llywodraeth Cymru i’r gwrthwyneb i agwedd sarhaus Llywodraeth Geidwadol y DU tuag at y GIG a staff gofal.”
A hithau’n wythnos o lacio rheolau covid, mae’r Gweinidog Iechyd wedi rhybuddio mai pwyll piau hi o ran codi rhagor o gyfyngiadau.
Yn sgil newidiadau dros y penwythnos, bellach mae modd i bedwar person o ddwy aelwyd gwrdd tu allan, ac rydym yn cael ein cynghori i aros yn lleol (yn hytrach nag adre).
Ochr yn ochr â hynny mae siopau trin gwallt bellach wedi ailagor, ac mae nifer helaeth o ddisgyblion wedi dychwelyd i’w hysgolion.
Wrth annerch y wasg brynhawn heddiw, ac yn ateb cwestiynau am ailagor campfeydd, pwysleisiodd Vaughan Gething y byddai pethau yn ailagor fesul tipyn (neu fesul “cymal”).
“A phob cymal wnawn ni ystyried pa gyfyngiadau y gallwn eu llacio,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw. “Ond y realiti yw ein bod ni’n methu agor pob dim ar yr un pryd.
“Pe bawn yn gwneud hynny mi fydden yn gwneud y gwrthwyneb i’r hyn mae ein Prif Swyddog Meddygol a’n Dirprwy Brif Swyddog Meddygol wedi ei rhybuddio.
“Mae agor yn gyflym yn peri’r bygythiad y bydd achosion coronaferiws yn neidio i fyny unwaith eto.
“Bydd llawer o bobol eisiau dychwelyd i gampfeydd a dw i’n deall eu gofid – yn ogystal â gofid pobol eraill am ffyrdd eraill o ymarfer corff. Ac mi fyddwn yn llacio rheolau unwaith bo hynny’n bosib.”
Mae’r gweinidog yn disgwyl y bydd achosion covid yn cynyddu wrth i gyfyngiadau llacio, ac mae wedi galw ar i’r cyhoedd gadw at reolau ac arferion pellhau cymdeithasol.
Mae cynlluniau ailagor y Llywodraeth eisoes wedi esgor ar rywfaint o drafodaeth, ac mae ychydig o densiwn wedi bod ynghylch ailagor siopau nad yw’n gwerthu nwyddau hanfodol.