Mae Ann Griffith, ymgeisydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi dweud bod cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn dangos “dirmyg tuag at ein democratiaeth”.

Ar hyn o bryd ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae pleidleiswyr yn rhifo ymgeiswyr yn nhrefn eu blaenoriaeth.

Ar ôl y rownd gyntaf o gyfrif, mae pleidleisiau’r ymgeiswyr llai llwyddiannus yn cael eu hailddosbarthu rhwng y ddau ymgeisydd mwyaf poblogaidd.

Nod hyn yw sicrhau bod gan y Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy’n cael ei ethol ystod ehangach o gefnogaeth, ac yn ôl Ann Griffith fod hyn yn “hanfodol i ardal mor sensitif â phlismona”.

Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach yn cynnig defnyddio system First Past the Post ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.

Mae Ann Griffith wedi disgrifio First Past the Post fel “system hynafol sydd wedi’i chynllunio i weithio i ddwy brif blaid y Deyrnas Unedig”.

Un arall sydd wedi lleisio barn yn erbyn y newid ydi Siôn Jobbins, Cadeirydd Yes Cymru, a rybuddiodd y “gallai’r Comisiynydd Torïaidd ennill gyda 33% o’r bleidlais a’i ddefnyddio i ddadlau yn erbyn datganoli pwerau”.

Ni ddisgwylir i’r newid effeithio ar yr etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy’n cael eu cynnal ar Fai 6 2021 ond bydd yn effeithio ar y rownd nesaf o etholiadau.

“Dangos eu dirmyg tuag at ein democratiaeth”

Dywedodd Ann Griffith: “Mae’r llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn gorfodi’r newid hwn i’r system etholiadol heb hyd yn oed ymgynghori â phobl Cymru, unwaith eto yn dangos dirmyg tuag at ein democratiaeth.

“Mae’r system bresennol yn ceisio sicrhau bod yr ymgeisydd sydd â’r gefnogaeth ehangaf yn cael ei ethol, sy’n hanfodol ar gyfer ardal mor sensitif â phlismona.

“Mae etholiadau San Steffan yn brawf nad yw First Past the Post yn addas.

“Mae’n system hynafol sydd wedi’i chynllunio i weithio i ddwy brif blaid y Deyrnas Unedig.

“Mae gan y Gymru fodern amrywiaeth eang o bleidiau a safbwyntiau, a ddylai gael eu hadlewyrchu ym mhob un o’n hetholiadau.

“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo’n gyson i gynrychiolaeth gyfrannol er mwyn rhoi dewisiadau democrataidd gwirioneddol i bobol Cymru ym mhob etholiad.”