Mae llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Lindsay Hoyle, wedi dweud wrth Liz Saville-Roberts stopio siarad Cymraeg wrth iddi ofyn cwestiwn.

Dywedodd y Llefarydd wrthi “stopio”, a bod “mynd ymlaen yn Gymraeg” yn mynd yn groes i reolau’r siambr.

Roedd Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, yn dymuno Dydd Sant Padrig hapus i bawb, ac esboniodd iddo mai Gaeleg oedd rhan gyntaf y frawddeg.

Mae’r digwyddiad yn dangos “dirmyg San Steffan tuag at ieithoedd lleiafrifol,” yn ôl Liz Saville-Roberts.

Ychwanegodd, nad oedd hyn yn “feirniadaeth ar y Llefarydd, sydd ond yn gweithredu’r rheolau.”

Mewn trydariad dywedodd Liz Saville-Roberts, ei bod yn “hen bryd i’r rheolau gael eu newid er mwyn adlewyrchu realiti cymdeithas fodern.”

 

Wedi iddi esbonio, dywedodd Linsay Hoyle nad oes ganddo ddim “dadleuon yn erbyn defnyddio’r Gymraeg, ond mai’r Tŷ Cyffredin sy’n gwneud y rheolau”, a’i fod o yno i “sicrhau bod y pawb yn cadw atynt.”

Oni bai am eithriadau sy’n caniatáu i’r Gymraeg gael ei defnyddio mewn pwyllgorau, mae’n rhaid i areithiau a gweithgareddau eraill yn Nhŷ’r Cyffredin ddigwydd yn Saesneg, yn ôl rheolau San Steffan.

Gellir cynnwys dyfyniadau mewn ieithoedd eraill, ond dylid cynnwys cyfieithiad Saesneg.