Roedd gyrru pobl o’u cartrefi adeg boddi Tryweryn a phentref Capel Celyn yn y 1960au yn “fethiant moesol” yn ôl ymgeisydd Ceidwadol.

Daw sylw Charlie Evans wedi iddo ennyn beirniadaeth am rannu llun o gronfa ddŵr Llyn Celyn, ger Y Bala, ar Twitter, ac o bostio neges yn tynnu sylw at ei “harddwch esthetig”.

Ac mae wedi cael ei gyhuddo gan aelodau’r cyhoedd o anwybyddu hanes trist yr ardal.

Creuwyd y llyn trwy foddi dyffryn afon Tryweryn gan gynnwys Capel Celyn, pentref Cymraeg ei hiaith. Mi wnaethpwyd hynny yn yr 1960au er mwyn darparu dŵr i ddinas Lerpwl.

Bellach mewn cais i ymateb gan golwg360 mae’r ymgeisydd Ceidwadol wedi rhannu ei deimladau yn sgil rhywfaint o “fyfyrio”.

“Fe wnes i bostio llun o Lyn Celyn ddoe gyda’r bwriad o arddangos harddwch Eryri – a fy malchder o fod yn ymgeisydd Ceidwadol Cymru ar gyfer etholaeth mor syfrdanol â Dwyfor Meirionnydd,” meddai mewn datganiad Cymraeg.

“Wrth fyfyrio, dylwn fod wedi egluro bod yr hyn a ddigwyddodd yno ym 1965 yn fethiant moesol.

“Roedd llifogydd Capel Celyn a gyrru pobl o’u cartrefi yn annerbyniol, [roedd y broses wedi’i chyflawni mewn ffordd] wael ac ni ddylid anghofio [y boddi].”

Beth ddywedodd Charlie?

Yn ei neges â’r llun – sydd bellach wedi ei ddileu (Nation.cymru) – dywedodd Charlie Evans: “Dw i’n credu mai fi yw’r ymgeisydd Ceidwadwyr Cymreig mwyaf lwcus yng Nghymru #LlynCelyn #CaruCymru.”

“A phob parch does a wnelo’r llun ddim i wneud gwleidyddiaeth,” meddai mewn ymateb i feirniadaeth. “Mae Criw Bae Caerdydd wedi cefnu ar Ddwyfor Meirionnydd.

“Mae ei harddwch naturiol yn dal i fod, ac nid yw gwleidyddion wedi ei ddifetha diolch byth. Mi fydden nhw heb os yn ei ddifetha.”

Mewn neges diweddarach dywedodd mai “sylw ar harddwch esthetig” y llun oedd ei neges, ac ategodd bod “boddi Capel Celyn yn weithred hynod anfoesol na ddylid fod wedi digwydd.”

Y feirniadaeth

“Mi ddylet wirio dy [ddealltwriaeth o’n] hanes,” meddai un cyfrif. “Ydy, mae’n edrych yn dda, ond mae ei fodolaeth yn symbol o ormes Seisnig. Ai dyna wyt ti’n sefyll trosto fe? #CofiwchDryweryn.”

“Mae hyn wir yn wrthun, Charlie,” meddai cyfrif arall. “Mi ddylet wella dy ddealltwriaeth o hanes cyn gwneud sylwadau mor diurddas a bychanol. Hollol wrthun.”