Mae’r hawl i brotestio’n “hollol sylfaenol mewn democratiaeth”, yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

Daw ei sylwadau wedi i’r Bil Heddlu, Trosedd, Dyfarnu a Llysoedd basio ei ailddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae’r Bil yn cynnwys cynlluniau i roi mwy o bwerau i’r heddlu allu ymateb i brotestiadau heddychlon sy’n amharu’n sylweddol ar y cyhoedd neu ar fynediad i’r Senedd.

Mae’n cynnwys cynlluniau i ganiatáu dedfrydau llymach ar gyfer pobol sy’n lladd plant a phobol sy’n achosi marwolaethau ar y ffyrdd. Hefyd cyfnodau hirach yn y carchar i droseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar iawn, ac ymestyn cyfreithiau cam-drin rhywiol i wahardd arweinwyr crefyddol a hyfforddwyr chwaraeon rhag cael rhyw gyda phlant 16-17 oed sydd yn eu gofal.

Ond, byddai’r ddeddf hefyd yn golygu y byddai’n bosib dedfrydu rhywun i ddeg mlynedd yn y carchar am ddifrodi cofgolofn, yn hytrach na thri mis.

Eisoes, mae aelodau o’r heddlu a chyfreithwyr wedi rhybuddio y gall hyn fod yn fygythiad i ddemocratiaeth, ac mae Plaid Cymru wedi galw am ddatganoli pwerau cyfiawnder i Gymru.

Hawl “hollol sylfaenol”

“Yn amlwg, mae’r hawl i brotestio yn hollol sylfaenol mewn democratiaeth, ac mae’r bil yma yn ymosodiad mawr ar yr hawl yma,” meddai Mabli Siriol wrth golwg360.

“Mae hefyd yn cynnwys elfennau eraill megis trefniadau fydd yn erlyn cymunedau sipsiwn a theithwyr, felly dw i’n meddwl bod lot i bryderu amdano.

“I ni fel mudiad ymgyrchu, mae’n rhywbeth sy’n poeni ni’n fawr… y trefniadau ar gyfer protestiadau, rhoi mwy o rym yn nwylo’r heddlu.

“Mae’r Gymdeithas wedi bod yn fudiad di-drais erioed, ond gallai’r ffordd mae’r bil wedi’i eirio arwain at ddweud fod pob math o brotestiadau heddychlon, hyd yn oed rhai eithaf bach, yn anghyfreithlon.

“Mae’n rhoi’r grym yn nwylo’r heddlu i benderfynu pa fath o brotestiadau sy’n ddilys, a rhoi mwy o rym iddyn nhw gyfyngu ar y rhai hynny,” esbonia Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Rydym ni’n gweld hynny fel rhywbeth peryglus iawn, ac mae’r heddlu wedi dangos mewn nifer o ddigwyddiadau yn ddiweddar sut maen nhw’n delio gyda phrotestiadau. Er enghraifft, yr hyn welsom ni dros y penwythnos gyda’r ymosodiadau ar ferched yn yr wylnos i Sarah Everard yn Llundain.

“D’yw e ddim yn gall rhoi mwy o rym iddyn nhw allu gwneud hynny,” ychwanega.

“Peryglus” ac “annemocrataidd” rhoi mwy o rym i’r heddlu

“Rydym ni wedi gweld, hefyd, yng Nghaerdydd dros y misoedd diwethaf bod Heddlu De Cymru wedi bod yn bygwth pobol oedd yn protestio er mwyn trio cael atebion yn achos marwolaeth Mohamud Hassan,” meddai Mabli Siriol.

Ddeufis yn ôl roedd dynes yn wynebu dirwy o £500 am drefnu protestiadau yn dilyn marwolaeth  Mr Hassan, a fu farw oriau ar ôl cael ei ryddhau o ddalfa’r heddlu yng Nghaerdydd.

“Felly, mae’r heddlu eisoes gyda gormod o rym, ac yn camddefnyddio’r grym yna pan mae’n dod at fudiadau protest.

“Nid ydym ni’n meddwl bod rhoi mwy o rym iddyn nhw yn rhywbeth call, mae’n beryglus ac yn annemocrataidd.”

Hanes yn dangos “bod protestio’n rhan o wleidyddiaeth a democratiaeth”

“Y prif beth i ni yw ein bod ni’n gwybod o’n hanes, fel Cymdeithas yr Iaith, bod protestio’n rhan mor fawr o wleidyddiaeth a democratiaeth.

“Nid just pleidleisio yw democratiaeth,” eglura Mabli Siriol, ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi “gweithredu dros yr iaith yn y gorffennol drwy brotestio – fel gyda hawliau’r iaith, y sianel deledu, addysg Gymraeg, statws swyddogol i’r iaith.”

“Mae popeth rydym ni wedi’i wneud wedi dod drwy ymgyrchu a phrotestio.

“Mae’r un peth yn wir i fudiadau eraill, fel y mudiad ffeministaidd neu’r mudiad gwrth-hiliaeth. Mae’n bwysig fod pobol yn deall yr hanes yna, a bod yr hawl i brotestio yn rhywbeth pwysig i ni frwydro drosto.”