Mae pryderon y gallai cyfreithiau newydd “sy’n cael eu brysio” drwy San Steffan fygwth hawliau rhyddid mynegiant, a’i gwneud hi’n anoddach i blismona protestiadau.
Mae’r Bil Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd, fydd yn cael ei ailddarlleniad heddiw (Mawrth 15), yn cynnwys cynlluniau i roi mwy o bwerau i’r heddlu allu ymateb i brotestiadau heddychlon sy’n amharu’n sylweddol ar y cyhoedd neu ar fynediad i’r Senedd.
Ond, mae aelodau o’r heddlu a chyfreithwyr wedi rhybuddio y gall hyn fod yn fygythiad i ddemocratiaeth.
Gallai’r ddeddf wneud swydd yr heddlu “yn anoddach”, meddai Sir Peter Fahy, Prif Gwnstabl Heddlu Manceinion Fawr.
“Mae angen i bobol boeni am hyn,” ychwanegodd.
“Os ydym ni wedi dysgu un peth dros y penwythnos, yna [pwysigrwydd] yr hawl i brotestio, i ddod ynghyd, [yw hynny] … [mae] cael llais yn angenrheidiol mewn democratiaeth, yn enwedig yn nemocratiaeth gwledydd Prydain.”
“Gofal enfawr i’r cyhoedd”
Mae’r ddeddf yn cynnwys cynlluniau i ganiatáu dedfrydau llymach ar gyfer pobol sy’n lladd plant a phobol sy’n achosi marwolaethau ar y ffyrdd, cyfnodau hirach yn y carchar i droseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar iawn, ac ymestyn cyfreithiau camdrin rhywiol i wahardd arweinwyr crefyddol a hyfforddwyr chwaraeon rhag cael rhyw gyda phlant 16-17 oed sydd yn eu gofal.
Ond byddai’r ddeddf hefyd yn golygu y byddai’n bosib dedfrydu rhywun i ddeg mlynedd yn y carchar am ddifrodi cofgolofn, yn hytrach na thri mis.
Yn ôl Kit Malthouse, Gweinidog yr Heddlu yn San Steffan, mae’r ddeddf yn cynnig “gofal enfawr i’r cyhoedd”, a byddai’n rhoi “pawb ar yr un lefel wrth ystyried trais”.
Dywedodd fod newidiadau “eithaf bach” angen cael eu gwneud i’r deddfau ar drefn gyhoeddus, sydd heb eu newid ers y 1980au, er mwyn cael gwared ar “anghysondebau a mannau gwan”, fel bod yr un amodau yn berthnasol i brotestiadau llonydd â gorymdeithiau.
Hawl i brotestio yn “hanfodol”
Yma yng Nghymru, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am gael gwared ar y bil “peryglus,” gan ddweud na ddylai Llywodraeth San Steffan roi mwy o bwerau i’r heddlu.
“Mae’r hawl i brotestio yn hanfodol ym mhob democratiaeth, ac rydym ni’n gwybod, fel gyda phob symudiad ar gyfer newid cymdeithasol, fod dyfodol y Gymraeg wedi’i ddiogelu drwy brotestiadau,” meddai Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Yn ddiweddar, mae nifer o ddigwyddiadau, megis dychryn protestwyr yng Nghaerdydd oedd yn chwilio am atebion yn dilyn marwolaeth Mohamud Hassan a’r ymosodiadau ar fenywod yn yr wylnos i Sarah Everard, yn dangos fod rhoi mwy o bŵer yn nwylo’r heddlu i gyfyngu protestiadau yn beryglus.
“Mae’n rhaid cael gwared ar y bil.”
“Gwaethygu anghydraddoldebau”
Yn ôl Liz Saville Roberts, byddai’r mesur yn “gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol yn ein system gyfiawnder troseddol”.
“Gwyddom, er enghraifft, sut mae ymosodiad yr Ysgrifennydd Cartref ar yr hawl i brotestio yn arwain at ymyriadau mwy ymosodol – o’r wylnos yn Clapham ddydd Sadwrn, i Black Lives Matter a Gwrthryfel Difodiant,” meddai Liz Saville-Roberts.
Byddai’r ddeddf hefyd yn rhoi mwy o hawliau i’r heddlu stopio a chwilio pobol, a’i gwneud yn haws i wneud gwiriadau ar bobol sydd wedi cael eu cyhuddo o gario cyllell.
“Rydym i gyd yn gwybod y bydd mesurau stopio a chwilio’r Bil yn targedu pobl ddu yn anghymesur,” ychwanegodd Liz Saville Roberts.
“Rwy’n gofyn iddi [Patel] – mewn gwirionedd – sut mae hi’n disgwyl i’r mesurau hyn fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.
“Yn hytrach na rhoi i ni’r pwerau mae arnom eu hangen i greu agwedd gyfun sydd yn mynd ati i asio cyfiawnder gyda pholisïau iechyd, addysg a chymdeithasol, bydd y Mesur hwn yn rhoi mwy o straen ar y system yng Nghymru, ac yn arwain at ganlyniadau gwaeth i bawb.”
‘Peidiwch â rhuthro i ddeddfu’
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Rydym yn rhannu’r pryderon sy’n cael eu mynegi’n eang am y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd. Rydym yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ailfeddwl a pheidio â rhuthro i ddeddfu.
“Byddai’r Bil yn rhoi pwerau eang i’r heddlu gyfyngu ar allu pobl – gan gynnwys undebau llafur – i brotestio, lleisio eu barn ac i ddwyn y pwerus – gan gynnwys cyflogwyr gwael – i gyfrif.
“Byddai hefyd yn gweld mwy o gosbau i’r rhai sy’n torri amodau’r heddlu ar brotestiadau ac yn ei gwneud yn haws i’r heddlu fynnu bod amodau o’r fath wedi’u torri… ac mae’n bygwth ‘troseddoli’ cymunedau sipsiwn a theithwyr – sydd yn tanseilio gweledigaeth Llywodraeth Cymru o greu Cymru heb ofn.
“Ni ddylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn gorfodi drwy gyfraith sydd â goblygiadau mor enfawr i hawliau sifil – yn enwedig yng nghanol pandemig.”