Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi canmol yr heddlu yng Nghymru am eu hymateb “sensitif” i’r gwylnosau yn sgil llofruddiaeth Sarah Everard.

Dros y penwythnos, cafodd gwylnosau eu cynnal mewn nifer o ddinasoedd er cof am Sarah Everard, a menywod eraill sydd wedi cael eu lladd gan ddynion.

Heddiw, yn San Steffan, mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, wedi annog pobol i beidio â chymryd rhan mewn cyfarfodydd mawr na phrotestiadau tra bod cyfyngiadau Covid-19 mewn lle.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r heddlu wedi wynebu her anodd iawn – un y maen nhw wedi’i chyflawni mewn ffordd broffesiynol, gan helpu i weithredu cyfyngiadau … gydag un pwrpas, sef i achub bywydau,” meddai Patel.

Sarah Everard

Fe ddiflannodd Sarah Everard wrth iddi gerdded adref o fflat ei ffrind yn ne Llundain ddydd Mercher, Mawrth 3.

Erbyn hyn, mae plismon sy’n gweithio i Heddlu Llundain wedi cael ei gyhuddo o gipio a llofruddio Sarah Everard.

Nos Sadwrn, daeth pobol ynghyd yn Clapham Common yn Llundain i gynnal gwylnos – a bu gwrthdaro wrth i’r heddlu amgylchynu’r fan lle’r oedd pobol yn gadael blodau.

Cafodd plismyn eu gweld yn gafael mewn menywod ac yn eu tywys nhw i ffwrdd mewn cyffion – cadarnhaodd yr heddlu bod pedwar o bobol wedi’u harestio am droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ac am dorri cyfyngiadau’r coronafeirws.

“Cymeradwyo” y mynychwyr a’r heddlu yng Nghymru

Wrth roi ei barn ar y ffordd wnaeth yr heddlu yn Llundain ymateb i’r wylnos, dywedodd Kirsty Williams: “dw i ddim yn meddwl y gallai unrhyw un a welodd yr hyn ddigwyddodd beidio â chael sioc.

“Rwyf mor ddiolchgar i’r merched a’r dynion yng Nghymru a fu’n cynnal gwylnosau dros y penwythnos er cof am Sarah ac i gydnabod y materion dyfnach rydym ni’n eu wynebu fel cymdeithas, a’r heddlu a wnaeth oruchwylio’r digwyddiadau mewn ffordd barchus iawn.

“Mae’n rhaid cofio ein bod ni dal mewn pandemig, ac rydym ni angen i bobol fod yn ymwybodol o hynny.

“Ond, byddwn yn cymeradwyo pobol oedd am gael dweud eu dweud yng Nghymru dros y penwythnos, ac ymateb sensitif yr heddlu,” ychwanegodd y Gweinidog Addysg.

“Mae gan bob merch ei stori”

“Roedd yr wylnos yn un emosiynol iawn,” meddai Gwenno Huws, fu yn yr wylnos tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd.

“Mae gan bob merch ei stori yn anffodus, ac roedd bod yno’n gwrando ar ferched eraill yn siarad am eu straeon o flaen pawb mor bwerus.

“O tua 5:30 ymlaen, roedd presenoldeb yr heddlu yn amlwg. Dw i’n meddwl i mi gyfri tua wyth neu ddeg o’n cwmpas ni yn yr wylnos.

“Doedd hyn ddim yn cyfri’r pedwar ceffyl heddlu, a’r ddwy fan heddlu oedd wedi’u gosod, bron o’r golwg, bob ochr i’r Senedd.

“Ni wnaeth yr heddlu darfu ar yr wylnos, ond roedd gweld y ceffylau gerllaw yn eithaf intimidating.

“Pwysig fod pobol yn ymddiried yn yr heddlu”

Mae Heddlu Llundain dan y lach am y ffordd wnaethon nhw ymateb i’r wylnos, ac mae Priti Patel a Sadiq Khan wedi galw am ymchwiliad annibynnol i ymddygiad yr heddlu yn ystod yr wylnos.

“Er lles hygrededd plismona”, mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, wedi gofyn i Syr Thomas Winsor gynnal ymchwiliad annibynnol gan fod “cwestiynau i’w hateb o hyd.”

Mae pwysau ar y Fonesig Cressida Dick, Pennaeth Heddlu Llundain, i gamu i’r neilltu yn dilyn y gwrthdaro.

Er hynny, mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, wedi’i hamddiffyn, gan ddweud fod gan yr heddlu “swydd anodd iawn” i’w gwneud.

Gan siarad cyn cyfarfod Gweithlu’r Llywodraeth ar Drosedd a Chyfiawnder heddiw (Mawrth 15) i drafod ffyrdd o amddiffyn merched rhag trais, dywedodd y Prif Weinidog fod ganddo ffydd yn y Fonesig.

“Mae gan yr heddlu swydd anodd iawn, iawn. Ond, heb amheuaeth, roedd yr hyn wnaethon ni weld yn ofidus ac mae’n iawn fod Tom Winsor yn gwneud adroddiad llawn ar y digwyddiad.

“Credaf ei bod yn bwysig fod pobol yn ymddiried yn yr heddlu, a bydd Tom yn edrych ar hynny.

Dywedodd Boris Johnson fod rhaid i’r Llywodraeth a chymdeithas sicrhau fod cwynion menywod ynghylch trais yn cael gwrandawiad teg.

Adennill y Strydoedd, hawl i brotestio, a diwedd i drais gan yr heddlu

Dros y penwythnos, daeth nifer o luniau a fideos i’r amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos Heddlu Llundain yn gafael ar fenywod.

Wrth ymateb, trydarodd Leanne Wood, Aelod o Senedd Cymru dros Blaid Cymru, gan ofyn, “Sut fod hyn yn gwneud i fenywod deimlo’n sâff rhag drais gan ddynion?”

Heno, bydd digwyddiad ym Mae Caerdydd yn galw am ddiwedd i drais gan yr heddlu, amddiffyn yr hawl i brotestio, ac Adennill y Strydoedd.

Mae’r enw Adennill y Strydoedd, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y mudiad oedd wedi trefnu’r wylnos yn Clapham Common, yn adlewyrchu symudiad Reclaim the Night.

Dechreuodd y symudiad yn Leeds ym 1977 fel rhan o’r ymateb i lofruddiaethau’r Yorkshire Ripper, wedi i’r heddlu ddweud wrth fenywod gadw draw o fannau cyhoeddus yn y nos.

Daw hyn wrth Fesur yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd gael ei hail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (Mawrth 15), gyda gwrthwynebwyr yn honni y byddai’n gosod rheolaethau anghymesur ar yr hawl i brotestio.

Cynnal gwylnos #AdennillyStrydoedd yng Nghaerdydd

Cadi Dafydd

“Roedden ni’n teimlo bod rhaid i ni wneud rhywbeth,” meddai un fam sy’n rhan o drefnu’r wylnos