Yr Almaen, Ffrainc a’r Eidal yw’r gwledydd diweddaraf i atal y defnydd o frechlyn Covid-19 AstraZeneca yn sgil adroddiadau newydd o dolchenni gwaed (blood clotting) mewn cysylltiad â’r brechlyn.

Dywedodd Geinyddiaeth Iechyd yr Almaen fod y penderfyniad wedi’i wneud fel “rhagofal” ac ar gyngor rheoleiddiwr brechlynnau cenedlaethol yr Almaen, Sefydliad Paul Ehrlich, sydd wedi galw am ymchwilio ymhellach i’r achosion.

Cyhoeddodd rheoleiddiwr meddyginiaethau’r Eidal hefyd waharddiad rhagofalus, dros dro.

Dywedodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, y byddai ei wlad ef hefyd yn atal defnydd o’r brechlyn tan yfory (16 Mawrth) ar y cynharaf.

Mewn datganiad, dywedodd Gweinyddiaeth Iechyd yr Almaen y byddai’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd yn penderfynu “a fydd y wybodaeth newydd yn effeithio ar awdurdodi’r brechlyn, a sut”.

Mae disgwyl i’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wneud dyfarniad ar y brechlyn yfory.

Dywedodd Mr Macron fod Ffrainc yn gobeithio ailddechrau defnyddio’r fformiwla’n fuan.

Gwledydd

Yr wythnos ddiwethaf, roedd yr Almaen a Ffrainc ymhlith y cenhedloedd a barhaodd gyda’r brechlyn, tra bod yr Eidal wedi atal un cyflenwad penodol o’r brechlyn yn unig.

Mae Prydain am barhau gyda brechlyn AstraZeneca am y tro.

Denmarc oedd y wlad gyntaf, yr wythnos ddiwethaf, i atal y defnydd o frechlyn AstraZeneca dros dro. Dywedwyd bod un person wedi datblygu tolchenni a marw 10 diwrnod ar ôl derbyn o leiaf un dos.

Ymhlith y gwledydd eraill sydd wedi atal eu defnydd o’r brechlyn mae Iwerddon, Gwlad Thai, yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad yr Iâ, Congo a Bwlgaria.

Manylion

Dywedodd Gweinyddiaeth Iechyd yr Almaen fod y tolchenni gwaed a gofnodwyd yn cynnwys gwythiennau’r ymennydd, ond nid oeddent yn nodi ble na phryd y digwyddodd yr achosion.

Dywedodd AstraZeneca ar ei wefan fod 37 o adroddiadau wedi bod am glotiau gwaed allan o fwy na 17 miliwn o bobl wedi’u brechu yn yr Undeb Ewropeaidd a Phrydain. Dywedodd y gwneuthurwr cyffuriau nad oes tystiolaeth bod mwy o risg o glotiau ynghlwm wrth y brechlyn.

Mae AstraZeneca wedi dweud nad oes rheswm i bryderu am ei frechlyn a bod llai o achosion thrombosis wedi’u cofnodi yn y rhai sydd wedi derbyn y brechlyn nag yn y boblogaeth gyffredinol.

Mae’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd a Sefydliad Iechyd y Byd hefyd wedi dweud nad yw’r data sydd ar gael yn awgrymu mai’r brechlyn a achosodd y tolchenni ac y dylai pobol barhau i gael eu himiwneiddio.

Yn ôl y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau, mae’r Almaen wedi derbyn ychydig dros 3 miliwn dos o frechlyn AstraZeneca a dim ond 1.35 miliwn o ddosau a ddefnyddiwyd hyd yma.

Brechlyn AstraZeneca

Yr Iseldiroedd yw’r wlad ddiweddaraf i atal y defnydd o frechlyn AstraZeneca

Mae’n dilyn adroddiadau am broblemau ceulo’r gwaed ymhlith pobl oedd wedi cael eu brechu yn Norwy