Yr Iseldiroedd yw’r wlad ddiweddaraf i atal y defnydd o’r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn dilyn pryder am sgil effeithiau posib.
Dywedodd llywodraeth y wlad y bydd y penderfyniad yn parhau tan Fawrth 29, fel rhagofal.
Roedd Gweriniaeth Iwerddon wedi gwneud penderfyniad tebyg yn dilyn adroddiadau am broblemau ceulo’r gwaed ymhlith pobl oedd wedi cael eu brechu yn Norwy.
Ond mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud nad oedd tystiolaeth bod cysylltiad rhwng y brechlyn a cheulo’r gwaed.
Daw’r cyhoeddiad gan yr Iseldiroedd ac Iwerddon ar ôl i Ddenmarc, Norwy, Bwlgariad, Gwlad yr Ia a Gwlad Thai gyhoeddi na fyddan nhw’n defnyddio’r brechlyn.
Mae Asiantaeth Feddyginiaeth Ewrop (EMA) sy’n cynnal adolygiad i ddigwyddiadau o geulo’r gwaed, yn dweud bod mwy o fudd o gael y brechlyn na’r risg o sgil effeithiau.
Mae 17 miliwn o bobl yn yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig wedi cael dos o’r brechlyn gyda llai na 40 o achosion o geulo’r gwaed yn cael eu hadrodd erbyn wythnos ddiwethaf, meddai AstraZeneca.