Dylai pwerau dros gyfiawnder gael eu datganoli i Gymru er mwyn creu “system gyfiawnder fwy trugarog a mwy atebol” i’r wlad, meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Dywedodd Liz Saville Roberts y byddai Mesur yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn “gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol yn ein system gyfiawnder troseddol”.

Bydd deddfwriaeth troseddau allweddol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei hail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun (Mawrth 15), gyda gwrthwynebwyr yn honni y byddai’n gosod rheolaethau anghymesur ar yr hawl i brotestio.

Daw hyn ar ôl i swyddogion Heddlu Llundain wrthdaro â thorfeydd oedd wedi dod ynghyd mewn gwylnos i gofio Sarah Everard.

Fe fydd Boris Johnson yn trafod ffyrdd o ddiogelu menywod rhag trais gyda phennaeth Heddlu’r Metropolitan heddiw (Mawrth 15).

“Gwaethygu’r anghyfartaledd”

Mae disgwyl i Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, ddadlau yn ystod dadl o’r Mesur y byddai’n rhoi pwysau ar wasanaethau Cymru ac yn cymhlethu ymhellach y rhyngweithio rhwng polisïau datganoledig a pholisïau nad ydynt wedi’u datganoli.

“Mae agwedd lymach y Mesur at ddedfrydu yn gam yn ôl, ac ni fydd yn gwneud dim ond gwaethygu’r anghyfartaledd sy’n bod eisoes yn ein system cyfiawnder troseddol.

“Gwyddom, er enghraifft, sut mae ymosodiad yr Ysgrifennydd Cartref ar yr hawl i brotestio yn arwain at ymyriadau mwy ymosodol – o’r wylnos yn Clapham ddydd Sadwrn, i Black Lives Matter a Gwrthryfel Difodiant.

“Rydym i gyd yn gwybod y bydd mesurau stopio a chwilio’r Bil yn targedu pobl ddu yn anghymesur.

“Rwy’n gofyn iddi – mewn gwirionedd – sut mae hi’n disgwyl i’r mesurau hyn fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

“Yn hytrach na rhoi i ni’r pwerau mae arnom eu hangen i greu agwedd gyfun sydd yn mynd ati i asio cyfiawnder gyda pholisïau iechyd, addysg a chymdeithasol, bydd y Mesur hwn yn rhoi mwy o straen ar y system yng Nghymru, ac yn arwain at ganlyniadau gwaeth i bawb.”

“Gallem wneud cymaint yn well yng Nghymru”

Ychwanegodd: “Er gwaethaf ugain mlynedd o ddatganoli, erys pwerau dros gyfiawnder yn San Steffan – ond cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cyflwyno llawer o’r gwasanaethau cysylltiedig.

“Mae perygl y bydd mesurau newydd a gyhoeddir yn y Mesur hwn yn cymhlethu mwy ar lanast anghynaliadwy ‘ymyl garw’ polisi cyfiawnder Cymru.

“Mae mentrau fel ‘llysoedd datrys problemau’ yn gofyn am gydweithrediad agos gweithwyr y gwasanaeth prawf ac iechyd.

“Sut y byddant yn cael eu darparu yng Nghymru, lle mae pwerau dros iechyd wedi cael eu datganoli?

“Ac yn bwysig iawn, pa arian ychwanegol a gawn ni i’w cyflwyno?

“O gofio man gwan y Llywodraeth hon am ddatganoli, mae arna’i ofn fod y polisiau hyn eto fyth wedi eu cynllunio gan Loegr, i Loegr.

“Gallem wneud cymaint yn well yng Nghymru pe bai gennym reolaeth briodol ar ein plismona a chyfiawnder troseddol. Gallem ddarparu system gyfiawnder fwy trugarog a mwy atebol – mewn cyferbyniad llwyr â’r cam yn ôl sydd yn cael ei gynnwys yn y Mesur hwn.”

Boris Johnson yn trafod ffyrdd o ddiogelu menywod rhag trais

Mae’n dilyn beirniadaeth lem o’r modd roedd swyddogion wedi trin menywod yn ystod gwylnos er cof am Sarah Everard nos Sadwrn

Heddlu Llundain dan y lach yn sgil eu hymddygiad mewn gwylnos i gofio Sarah Everard

Ond yr heddlu’n ymateb gan ddweud bod “gorfodaeth yn angenrheidiol” wrth i bobol ymgynnull i gofio Sarah Everard