Bydd ymchwiliad preifat i ddiflaniad y cwch bysgota o Gonwy, Nicola Faith, yn dechrau’r wythnos hon.
Aeth y cwch ar goll ar Ionawr 27, ynghyd â’i chriw o dri – Ross Ballantine, 39, Alan Minard, 20, a Carl McGrath, 34.
Roedd y chwilio’n cynnwys timau o Fangor, Llandudno, y Fflint a’r Rhyl, badau achub yr RNLI o’r Rhyl, Hoylake a Llandudno, hofrennydd gwylwyr y glannau o Gaernarfon, ac awyrennau Gwylwyr y Glannau, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru.
Daeth y chwilio i ben ddeuddydd yn ddiweddarach.
David Mears fydd yn arwain yr ymchwiliad preifat.
Mae’n arbenigwr ar ymchwiliadau dŵr, a fe oedd yn gyfrifol am ddarganfod gweddillion yr awyren yn dilyn marwolaeth y pêl-droediwr Emiliano Sala.
“Rydw i dal yn hyderus bod modd dod o hyd i’r cwch er bod y broses o chwilio yn ddibynnol i raddau helaeth ar y tywydd,” meddai David Mears.
“Gyda’r math o sonar rydan ni’n ei ddefnyddio mae ansawdd y canlyniadau yn gysylltiedig â pha mor dawel yw’r tywydd.
“Mae disgwyl llanw uchel yn ystod y dyddiau nesaf a gwynt.”