Mae Beyonce wedi cael lle yn y llyfrau hanes ar ôl iddi gipio pedair gwobr o naw enwebiad yng Ngwobrau’r Grammy nos Sul (Mawrth 14).

Mae hi bellach wedi ennill mwy o Grammys na’r un gantores arall, gan gipio 28 o wobrau yn ystod ei gyrfa.

Fe enillodd Beyonce y wobr am y fideo gerddoriaeth orau am Brown Skin Girl a’r perfformiad R&B orau am Black Parade, yn ogystal â pherfformiad rap orau a chan rap orau am Savage.

Mae’n golygu bod Beyonce, 39, wedi ennill yr un faint o wobrau Grammy a’r cynhyrchydd adnabyddus Quincy Jones. Yr arweinydd, y diweddar Georg Solti sy’n parhau’r enillydd mwyaf llwyddiannus, gan gipio 31 gwobr.

Wrth dderbyn ei gwobr roedd Beyonce wedi diolch i’w gwr Jay-Z ac artistiaid du “sy’n parhau i fy ysbrydoli ac ysbrydoli’r byd i gyd.”

Fe enillodd Taylor Swift, 31, y wobr am albwm y flwyddyn am Folklore, a ysgrifennodd yn ystod y cyfnod clo.

Hi yw’r artist benywaidd cyntaf i ennill y wobr dair gwaith yn olynol.