Mae pentref Banwen wedi comisiynu’r bardd Menna Elfyn i lunio cerdd newydd i goffáu San Padrig a oedd, yn ôl chwedloniaeth, wedi cael ei eni yno.
Daw hyn ar drothwy Dydd San Padrig, nawddsant Iwerddon, ar Fawrth 17.
Mae’r gerdd, sydd wedi’i llunio yn Gymraeg a Saesneg, yn adrodd hanes dynol hir y Ffordd Rufeinig sy’n rhedeg trwy ganol y pentref ac am brofiadau teuluoedd yr ardal lofaol, a dygnwch bregus menywod y pentref.
Yn ôl chwedloniaeth, cafodd Padrig a’i chwaer Darerca eu cipio gan fôr-ladron Gwyddelig 1,500 o flynyddoedd yn ôl.
Ac am nad yw’r pentref yn gallu dod ynghyd eleni i ddathlu Dydd San Padrig, maen nhw wedi mynd ati i greu cofeb barhaol iddo ar ffurf geiriau’r bardd amdano.
Ar gyfer yr achlysur, mae’r cerflunydd Mel Bastier wedi creu cerfluniau o Badrig, ei chwaer a’i fam i’w gosod ger y gofeb sydd yno eisoes.
Fe fydd ditectif o Heddlu Scotland Yard hefyd yn rhoi darlith am gludo pobol yn anghyfreithlon yn yr oes sydd ohoni heddiw yng ngwledydd Prydain.
Fe ddaeth y syniad i’r pentref ar ôl i George Evans, dyn 95 oed sy’n byw yno, ddod o hyd i hunangofiant Padrig yn y 1930au yn sôn am ei hanes e a’i deulu’n cael eu cipio, ac roedd erthygl hefyd yn sôn am awgrym Padrig mai Taburnaie Bannavem – Tafarn y Banwen – oedd ei fan geni.
‘Pleser’
“Bu’n bleser ysgrifennu cerdd am Badrig a’i chwaer ond er mor ramantus y chwedl amdano’n byw yn Banwen, mae’r ffordd y cafodd ef a’i chwaer eu cipio a’u cario i Iwerddon yn creu arswyd o feddwl am ein byd ni heddiw a’r ffordd mae’r fasnach gaethwasiaeth yn parhau i ormesu plant, menywod a’r difreintiedig,” meddai Menna Elfyn.
Yn ôl George Evans, fe gafodd ei “syfrdanu” ar ôl dod i wybod am y cysylltiad rhwng y sant a’r pentref.
“Roedd Tafarn y Banwen yn lle ro’n i’n ei nabod yn dda,” meddai.
“Dyma’r fferm y gwnaeth fy nhad-cu ei rhentu gan y gweithfeydd glo.
“Yn sydyn iawn, fe ddysgais i mai dyma gartref gwreiddiol San Padrig.”