Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd Ap Antur Cyw nawr ar gael mewn Llydaweg a Chernyweg.

Daw hyn ar ôl cyfnod o gydweithio â chynrychiolwyr o Lydaw a Chernyw.

Mae’r Ap, a lansiwyd yn wreiddiol ym mis Ebrill 2020, yn rhoi cyfle i blant ddysgu a chwarae mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Bydd modd i blant o Gymru, Cernyw a Llydaw ddysgu a chwarae gyda’r cymeriadau Cyw, Jangl, Llew, Bolgi, Plwmp, Triog a Deryn – neu Kiou, Jirafenn, Leon, Ki, Olifant, Laouenan (Llydaweg) a Kyw, Tybi, Lew, Skav, Oli a Deryn (Cernyweg).

Mae’r Ap ar gael am ddim ar blatfformau Apple, Android ac Amazon ac mae modd dewis pa iaith i’w ddefnyddio ar ôl lawrlwytho.

“Mae ieithoedd lleiafrifoedd yn cefnogi a helpu ei gilydd yn rhywbeth i’w ddathlu”

Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C: “Mae hi mor braf gallu lansio’r ap arbennig yma. Ar ôl sgwrs yn yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd yn yr Alban yn 2019, daeth y syniad i gydweithio a rhannu adnoddau, er mwyn annog a chefnogi ieithoedd lleiafrifol eraill.

“Nid yn unig mae’r ap yma’n helpu plant gyda sgiliau rhifedd a llythrennedd a darganfod ieithoedd eraill tebyg i’r Gymraeg, mae o hefyd yn rhywbeth hygyrch i oedolion a rhieni sydd â diddordeb mewn dysgu geiriau Cymraeg, Cernyweg neu Lydaweg.

“Mae ieithoedd lleiafrifoedd yn cefnogi a helpu ei gilydd yn rhywbeth i’w ddathlu, ac mae’n wych bod gan S4C ran ganolog yn hyn wrth lansio Ap Antur Cyw mewn tair iaith Geltaidd.”

“Rhywbeth o safon”

Mae Mael Le Guennec, Pennaeth Rhaglenni Llydaweg, France Télévisions yn dweud ei fod yn falch o gael “rhywbeth o safon”

“Dydyn ni erioed wedi cael rhywbeth o’r safon yma yn Llydaweg,” meddai.

“Dyma Ap deniadol sy’n gallu cael ei ddefnyddio gan blant ac oedolion hefyd.

“Mae oedolion, yn ogystal â phlant, yn dysgu Llydaweg, ac o hyd yn chwilio am rywbeth hwylus a hygyrch i helpu.

“Mae’n dda i bobl ddarganfod mai nid ni yw’r unig iaith Geltaidd sy’n bodoli. Mae’n anodd i rai ddeall fod yna ieithoedd Celtaidd eraill, sy’n agos i’n hiaith ni.

“Mae hwn yn arf arbennig, ac roeddem ni’n hapus iawn fod S4C eisiau cydweithio a’i rannu gyda ni.”

“Codi proffil yr ieithoedd”

Ychwanegodd Denzil Monk, Cynhyrchydd a pherchennog Bosena, cwmni cynhyrchu annibynnol yng Nghernyw:

“Mae’r ap yma yn bwysig iawn. Ychydig o adnoddau Cernyweg sydd ar gael ar gyfer y blynyddoedd cynnar – llyfrau ac ambell ap.

“Ond, does dim lot o gwbl, a llai fyth sydd mor ddeniadol â hyn gyda’r safon dysgu sy’n bodoli o fewn yr ap yma.

“Mae hi’n wych cael yr ieithoedd Cernyweg, Llydaweg a Chymraeg yn cydweithio.

“Mae’n beth unigryw i gael y tair iaith gyda’i gilydd, a bydd yr ap yma yn sicr yn codi proffil yr ieithoedd hyn yn y dyfodol.”