Fe fydd Boris Johnson yn trafod ffyrdd o ddiogelu menywod rhag trais gyda phennaeth Heddlu’r Metropolitan heddiw (Mawrth 15) yn dilyn beirniadaeth lem o’r modd roedd yr heddlu wedi trin menywod yn ystod gwylnos er cof am Sarah Everard.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gadeirio cyfarfod o Dasglu Trosedd a Chyfiawnder y Llywodraeth ddydd Llun, gyda’r Fonesig Cressida Dick ymhlith y rhai fydd yn y cyfarfod. Mae hi wedi gwrthod galwadau i ymddiswyddo fel pennaeth Heddlu’r Met yn dilyn y digwyddiadau nos Sadwrn (Mawrth 13).

Bu swyddogion yr heddlu yn gwrthdaro gyda nifer o bobl oedd wedi dod at ei gilydd yn Clapham Common yn Llundain i gofio Sarah Everard, 33, a ddiflannodd wrth gerdded adre o fflat ei ffrind ar Fawrth 3.

“Pryder difrifol”

Dywedodd Cressida Dick bod yr hyn a ddigwyddodd i Sarah Everard yn ei gwneud “yn fwy penderfynol, nid llai” i arwain yr heddlu, ac mae hi wedi croesawu cais gan yr Ysgrifennydd Cartref am ymchwiliad annibynnol i’r digwyddiadau dros y penwythnos.

Mae Priti Patel wedi gofyn i Cressida Dick gynnal adolygiad i weithredoedd yr heddlu yn ystod yr wylnos.

Fe fydd Priti Patel yn y cyfarfod heddiw ynghyd a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Robert Buckland a chyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus Max Hill.

Mae Boris Johnson wedi mynegi “pryder difrifol” am y golygfeydd yn y digwyddiad – roedd rhai yn dangos swyddogion yr heddlu yn gafael yn y menywod a’u harwain i ffwrdd mewn cyffion.

Dywedodd y byddai’r cyfarfod ddydd Llun yn edrych ar “pa gamau eraill y gallwn ni eu cymryd i ddiogelu menywod a sicrhau bod ein strydoedd yn ddiogel.

“Mae’n rhaid i farwolaeth Sarah Everard ein huno ni yn ein hymdrech i fynd i’r afael a thrais yn erbyn menywod a merched ifanc a gwneud i bob rhan o’r system gyfiawnder weithio i’w diogelu a’u hamddiffyn.”