Bydd rhagor o ddisgyblion ysgolion cynradd yn dychwelyd i’r dosbarth yng Nghymru heddiw (dydd Llun, Mawrth 15), am y tro cyntaf eleni tra bydd addysgu wyneb yn wyneb hefyd yn ailddechrau i ddysgwyr ym mlynyddoedd 11 a 13.
Gall athrawon hefyd wahodd dysgwyr ym mlynyddoedd 10 a 12 yn ôl i’r ysgol er mwyn cefnogi eu dysgu, tra bydd pob blwyddyn arall yn cael “cofrestru” gydag athrawon ar nifer cyfyngedig o ddyddiau cyn i’r ysgol ddychwelyd yn llawn o Ebrill 12.
Fe fydd dau brawf Covid cyflym yn cael eu cynnig bob wythnos.
Daw hyn wedi i gyfyngiadau “aros gartref” Cymru gael eu codi ddydd Sadwrn (Mawrth 13), wrth i’r wlad symud i gyfnod “aros yn lleol”, gyda disgwyl i gyfyngiadau teithio gael eu llacio ymhellach mewn pryd ar gyfer y Pasg.
Bydd siopau trin gwallt a barbwyr yng Nghymru hefyd yn ailagor o ddydd Llun am y tro cyntaf yn 2021, wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio.
Dywed rheoliadau Llywodraeth Cymru mai dim ond gydag apwyntiad y gall trinwyr gwallt wasanaethu cwsmer, ac y bydd eu gwasanaethau’n cael eu cyfyngu i dorri gwallt yn unig.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Gwener (Mawrth 12) y byddai busnesau trin gwallt yn cael ailagor am eu bod wedi gwneud “popeth sydd ei angen er mwyn gweithredu’n ddiogel”.
Roedd cyfradd achosion saith diwrnod Cymru ddydd Sul (Mawrth 14) yn 39 i bob 100,000 o bobl, yr isaf o unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cyfanswm o 1,113,498 o bobl wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19, cynnydd o 29,169 o’i gymharu a’r diwrnod blaenorol, tra rhoddwyd 257,398 o’r ail ddos hefyd, cynnydd o 7,372.
Cadarnhawyd 217 o achosion eraill, gan fynd â chyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd i 206,405, tra bod 10 marwolaeth arall wedi cymryd y cyfanswm yn y wlad ers dechrau’r pandemig i 5,452.