Mae Priti Patel a Sadiq Khan yn galw am ymchwiliad annibynnol i ymddygiad yr heddlu yn ystod gwylnos er cof am Sarah Everard yn Llundain.

Mae Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, eisiau i ymchwiliad gael ei gynnal er mwyn “dysgu gwersi”, tra bod Maer Llundain yn dweud bod ymddygiad yr heddlu’n “annerbyniol”.

Daw hyn yn dilyn gwrthdaro rhwng yr heddlu a’r rhai oedd wedi ymgynnull er cof am y ddynes 33 oed fu farw ar ôl diflannu o ardal Clapham Common cyn i’w chorff gael ei ddarganfod yng Nghaint.

Mae’r plismon Wayne Couzens wedi’i chyhuddo o lofruddio Sarah Everard.

Ymchwiliad

Wrth alw ar Brif Arolygydd y Gwnstabliaeth i gynnal ymchwiliad “dysgu gwersi”, fe fu Priti Patel yn trafod y sefyllfa â’r Fonesig Cressida Dick, Pennaeth Heddlu Llundain, ar ôl derbyn ei chofnod o’r digwyddiadau neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 13).

Ac “er lles hygrededd plismona”, mae hi bellach wedi gofyn i Syr Thomas Winsor gynnal ymchwiliad annibynnol gan fod “cwestiynau i’w hateb o hyd”.

Daw hyn wrth i Sadiq Khan ddweud y byddai’n gofyn i Aroygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu gynnal arolwg o’r digwyddiadau.

Dywed fod yr hyn ddigwyddodd yn y gwylnos “yn gwbl annerbyniol” er bod Heddlu Llundain wedi addo y bydden nhw’n plismona’r digwyddiad “mewn modd sensitif”.

Pwysau ar Bennaeth yr Heddlu

Mae pwysau ar y Fonesig Cressida Dick i gamu o’r neilltu yn dilyn y gwrthdaro, wrth i blismyn gael eu gweld yn gafael mewn sawl menyw a’u tywys nhw i ffwrdd mewn cyffion.

Dywedodd Heddlu Llundain wedyn fod pedwar o bobol wedi cael eu harestio am droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ac am dorri cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn galw arni i gamu o’r neilltu, tra bod ymgyrchwyr tros hawliau menywod yn dweud na allai hi barhau yn ei swydd.

Yn ôl Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, ddylai hi ddim ymddiswyddo ond mae e wedi beirniadu’r modd y gwnaeth yr heddlu blismona’r digwyddiad.

Mae deunydd fideo sydd wedi dod i’r fei yn dangos plismyn yn gwthio menyw yn ei chefn ar ôl ei llusgo hi oddi ar ei gliniau.

Caiff ei gweld wedyn yn plygu cyn cael ei gwthio eto cyn gweiddi a cheisio casglu ei sbectol.

Mae nifer o undebau wedi beirniadu’r modd y gwnaeth yr heddlu blismona’r digwyddiad.