Mae tua 2,000 o bobol wedi dod ynghyd yn yr Hâg yn yr Iseldiroedd i brotestio yn erbyn cyfnod clo a llywodraeth y wlad.

Roedd rhai yn cludo baner â’r geiriau ‘Cariad a Rhyddid: Dim Unbennaeth” arni, ac eraill yn cario ymbarél.

Fe wnaeth protestiwr arall gario llun o ben y prif weinidog Mark Rutte mewn cyffion pren ac arwydd yn dweud “Os ydych chi’n caru’r Iseldiroedd, pleidleisiwch nhw allan”.

Wrth i’r heddlu ymgynnull ar ddechrau’r brotest, fe wnaethon nhw drydar nad oedd modd i ragor o bobol fynd yno oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo, ond fe wnaeth cannoedd yn rhagor gyrraedd ar ôl hynny.

Er bod y brotest yn heddychlon, cafodd un dyn ei arestio am ymosod ar yr heddlu â ffon ac roedd oedi ar drenau o ganlyniad i’r brotest wrth i bobol heidio i’r ddinas.

Mae protestiadau llai wedi’u cynnal yn Amsterdam dros yr wythnosau diwethaf.

Er gwaetha’r cyfnod clo, mae mwy nag 16,000 o bobol wedi marw yn y wlad ers dechrau’r pandemig.

Daw hyn ar drothwy etholiadau’r wlad.