Mae canwr sydd newydd gyhoeddi cân newydd am annibyniaeth yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd yn gwneud i bobol feddwl sut fath o Gymru hoffen nhw fyw ynddi yn y dyfodol.
Cafodd ‘Who Are You?’ gan Geraint Rhys o Abertawe ei chyhoeddi ar y we ddydd Gwener (Mawrth 12), ac mae hi ar gael i’w chlywed a’i lawrlwytho ar lu o lwyfannau gan gynnwys YouTube, Apple, Spotify, Deezer, SoundCloud, Amazon, Tidal, Napster a Yandex.
Wrth siarad â golwg360, dywed y canwr fod y gân yn gwestiwn uniongyrchol i bobol y tu draw i’r ffin ond hefyd yn gwestiwn i ni yma yng Nghymru am ein hunaniaeth.
“Ar un llaw, mae wedi’i hanelu draw tuag at San Steffan pryd maen nhw’n siarad am Gymru pryd maen nhw’n mo’yn rhywbeth, a dweud ‘who are you to speak for us’, fel pe bai,” meddai.
“Ond ar y llaw arall, mae wedi’i hanelu at bobol o Gymru i edrych ’nôl ac ystyried pwy yn union y’n ni eisiau i gynrychioli ni a phwy y’n ni fel Cymry nawr, a phwy y’n ni eisiau bod yn y dyfodol.”
Twf y mudiad annibyniaeth
Dywed hefyd fod y gân wedi’i hysbrydoli gan y twf yn y mudiad annibyniaeth yng Nghymru, yn bennaf yn sgil pandemig Covid-19 a’r gwahanol bolisïau sydd wedi bod ar waith yng ngwledydd Prydain.
“Ni wedi gweld cynnydd, yn enwedig ar social media yn bendant, a’r twf yn Yes Cymru ac efallai mae ’na rywbeth yn dechrau newid gyda mwy o bobol yn tueddi dechrau cefnogi annibyniaeth,” meddai.
“Yn bendant, fi’n credu bod e’n cychwyn rhywbeth a byddwn ni’n gweld mwy o bobol yn cefnogi annibyniaeth, a dyna pam o’n i eisiau ysgrifennu’r gân.”
Ond pam ei rhyddhau yn Saesneg?
“Fi wedi rhyddhau stwff gwleidyddol yn Saesneg ac yn Gymraeg,” meddai.
“Mae ’da ni ganeuon yn y Gymraeg yn bendant yn cefnogi annibyniaeth, yn bendant os y’ch chi’n mynd nôl i ganeuon Dafydd Iwan, a wedyn stwff arall dros y blynyddoedd, ond o’n i eisiau agor pethau lan.
“Ni wedi gweld y cynnydd yma, yn enwedig yn Yes Cymru, mewn pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg sy’n dechrau cefnogi annibyniaeth, a dyna pam wnes i ysgrifennu yn Saesneg i gael mwy o bobol i sylwi arni.”
Diddordeb mewn annibyniaeth
Yn Gymro Cymraeg o Abertawe a gafodd addysg Gymraeg yn y ddinas, mae’n dweud bod ei Gymreictod yn golygu bod credu mewn annibyniaeth wedi bod yn rhywbeth naturiol iddo fe erioed.
Ond mae hefyd yn teimlo bod annibyniaeth bellach yn gysyniad sydd wedi mynd ymhell y tu hwnt i’r gymuned Gymraeg erbyn hyn.
“Er bod hwnna’n rywbeth dwi wedi teimlo’n naturiol, yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf, ni wedi gweld twf ledled Cymru a ddim jyst yn y gymuned Gymraeg,” meddai.
“Er bo fi wastad wedi credu y dylai Cymru fod yn annibynnol, mae’n un peth i gredu ond ni yn gweld pobol eraill yn dechrau siarad amdano fe sydd efallai ddim yn y gymuned Gymraeg, o beth dwi wedi gweld.
“Roedd hyn wedi ysgogi fi i wneud rhywbeth.
“I fi, mae’r mwyafrif o’r gefnogaeth wedi dod o’r gymuned Gymraeg ond fi’n credu bo ni’n gweld hwnna’n newid tamaid bach.
“Ond mae Cymreictod wedi bod yn rhan bwysig o hunaniaeth i fi, yn naturiol.”
Masters mewn Astudiaethau Cenedlaetholdeb
Tua degawd yn ôl erbyn hyn, astudiodd Geraint ar gyfer gradd Meistr mewn Astudiaethau Cenedlaetholdeb ym Mhrifysgol Caeredin, gan ddod i gysylltiad â phobol o wledydd a diwylliannau lleiafrifol eraill oedd o blaid annibyniaeth.
Y mwyaf ohonyn nhw, meddai, oedd Catalwnia ac mae e wedi bod yno dros y blynyddoedd diwethaf yn perfformio’i ganeuon, gan gynnwys ‘Visca La Terra’.
“Yn enwedig o ran Catalwnia, dwi wedi bod draw ’na ac wedi chwarae gigs draw ’na a wnes i ryddhau cân yn 2017 oherwydd bo fi draw ’na am y refferendwm,” meddai.
“Roedd hi’n eitha’ poblogaidd draw ’na, wnes i chwarae hi ar y radio ac roedd lot o bobol wedi’i gwylio hi ar YouTube hefyd, so oedd y gefnogaeth yn eitha’ positif a dyna pryd ddechreuodd y berthynas, a dros y blynyddoedd, dwi wedi cadw cysylltiad a mynd draw ’na.
“Mae’r cynnydd [yn yr ymgyrch dros annibyniaeth] wedi bod yn eitha’ cyflym yng Nghatalwnia.
“Yn 2010, doedd y lefelau cefnogaeth i annibyniaeth ddim yn bell i ffwrdd o beth sydd gyda ni nawr yng Nghymru ond wedyn dros ddeng mlynedd mae wedi cynyddu.”
Sut mae dysgu o sefyllfa Catalwnia?
Pa wersi sydd i’w dysgu, felly, o’r ymgyrch dros annibyniaeth yng Nghatalwnia, a beth sydd angen ei wneud er mwyn i Gymru ddod yn wlad annibynnol yn y dyfodol?
“Fel aelod o Yes Cymru yn Abertawe, mae’n rhaid iddyn nhw gyfuno lot o safbwyntiau gwleidyddol a wnes i ofyn i ffrind sy’n gynghorydd draw yn Girona sut maen nhw’n gwneud e draw fynna ac fe ddywedodd e bo nhw’n dal yn trio uno pawb sydd yn cefnogi annibyniaeth o bleidiau gwahanol,” meddai.
“Mae ’na bob amser gigs sy’n cefnogi annibyniaeth ac mae ’na ryw fath o gefnogaeth gan artistiaid.
“Pan dw i wedi bod draw yn Girona, mae lot o social clubs gyda nhw sy’n cefnogi annibyniaeth, fel ’tasai Yes Cymru â rhyw fath o social club ond mae bariau a chaffis gall unrhyw un fynd mewn iddyn nhw.
“Byddai hwnna’n rywbeth positif fel bod pawb yn gallu gweld pobol sy’n cefnogi annibyniaeth yn y dre’ yn cael gigs ac yn cael stwff yn aml.
“Byddai hwnna’n gam y gallai Cymru ddysgu oddi wrtho fe, yn bendant.”
Sut mae cael annibyniaeth?
Ar lefel wleidyddol, sut mae angen i’r tirlun newid yng Nghymru er mwyn gosod y seiliau ar gyfer annibyniaeth?
Yn ôl Geraint, mae’r ateb o fewn Plaid Cymru a thu hwnt iddi.
“Mae ’na bobol sy’n cefnogi annibyniaeth sydd ddim yn mynd i gefnogi’r Blaid, felly un o’r sialensau mwyaf yw trio uno pobol o’r pleidiau gwahanol a dweud, beth bynnag yw eich safbwynt, y sefyllfa lle gall Cymru fod yn annibynnol yw’r un bwysica’,” meddai.
“Mae hyn yn gorfod digwydd yn gyntaf ond ar hyn o bryd, ni wedi gweld yng Nghymru, gyda’r etholiadau sy’n dod nawr, yr unig blaid sy’n gwthio annibyniaeth yw Plaid Cymru.
“Ydych chi’n dweud wrth bawb am gefnogi Plaid Cymru yn gyntaf i ddangos twf fel maen nhw wedi gwneud yn yr Alban? Dwi ddim yn gwybod.”
Datblygiad y cyfryngau
Mae’n teimlo hefyd y bydd datblygiad y cyfryngau’n gam mawr tuag at annibyniaeth, gyda nifer o gyhoeddiadau newydd wedi dod i’r fei yng Nghymru’n ddiweddar.
“Ni wedi gweld The National yng Nghymru, Nation.Cymru a’r ffynonellau eraill sy’n darparu newyddion ond rhaid iddyn nhw fod yn weledol,” meddai’n obeithiol.
“Hefyd, rhaid i ni symud stwff o’r social media i’r stryd oherwydd ar hyn o bryd, mae lot o’r gefnogaeth ar Twitter yn wych ac mae’r cynnydd yn aelodaeth Yes Cymru yn wych ond ar y llaw arall, sut mae hwnna’n cyfieithu i bŵer ar y stryd?
“Sut y’n ni’n gallu ffocysu pethau? Mae’n hawdd iawn credu bod annibyniaeth rownd y gornel ond y realiti yw efallai bod hwnna’n rhyw fath o echo chamber neu bybl.
“Dyna pam mae’n rhaid i ni ddweud bod digon o bobol yn meddwl bod annibyniaeth yn beth positif, felly sut allwn ni gyfieithu hwnna i’r stryd?”
Mae modd lawrlwytho’r gân drwy fynd i https://song.link/i/1553392471