Mae’r heddlu yn Iwerddon yn ymchwilio i gyfaddefiad Leo Varadkar ei fod e wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol y Llywodraeth i griw o feddygon.

Mae’r cyn-Taoiseach a’r Tanaiste, neu ddirprwy, presennol wedi dweud wrth y wasg ei fod e wedi rhoi copi o gytundeb cyflogau rhwng y Wladwriaeth a sefydliad meddygon i griw arall o feddygon teulu.

Bydd erlynwyr yn penderfynu a fyddan nhw’n dwyn achos yn ei erbyn, ond mae’n gwadu iddo wneud unrhyw beth anghyfreithlon.

Leo Varadkar yw arweinydd plaid Fine Gael ac mae e hefyd yn gymwys i fod yn feddyg, ac mae’n Weinidog Mentergarwch yn y llywodraeth glymblaid.

Cefndir

Ym mis Ebrill 2019, fe wnaeth Leo Varadkar roi dogfen i’w ffrind Maitiu O Tuathail, oedd yn llywydd Cymdeithas Genedlaethol y Meddygon Teulu (NAGP) ar y pryd.

Fe wnaeth e ymddiheuro am y digwyddiad ar y pryd pan oedd e’n Taoiseach ond unwaith eto, fe wnaeth e wadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Mae’n dweud ei fod e wedi anfon y ddogfen at feddygon yn y gobaith y bydden nhw’n ei llofnodi.

Dydy’r Garda, neu’r heddlu, ddim wedi gwneud sylw.