Mae’r Blaid Lafur yn galw am wneud atgasedd at fenywod (misogyny) yn drosedd gasineb ac am gynyddu’r ddedfryd leiaf ar gyfer treiswyr a’r rhai sy’n stelcian.

Maen nhw hefyd am weld dedfryd oes gyfan am gipio, ymosod yn rhywiol a llofruddio dieithryn.

Fe fydd y blaid yn pleidleisio yn erbyn deddfwriaeth ddadleuol yn San Steffan a allai arwain at gosb lymach am ddifrodi cofgolofn nag am ymosod ar fenywod.

Mae’r blaid yn dweud mai “llanast” yw’r ddeddfwriaeth newydd, ac mae David Lammy, eu llefarydd cyfiawnder, yn dweud y byddai’n arwain at gosbi pobol yn anghymesur am brotestio.

Mae’n galw ar weinidogion i gefnu ar y ddeddfwriaeth a fydd yn cael sylw aelodau seneddol yr wythnos hon, ac i gydweithio’n drawsbleidiol i fynd i’r afael ag ymosodiadau ar fenywod.

Daw hyn ar ôl i Sarah Everard, dynes 33 oed, fynd ar goll wrth fynd i weld ffrind ar Fawrth, a chafwyd hyd i’w chorff mewn ardal goediog tra bod plismon wedi’i gyhuddo o’i llofruddio.

“Nawr yw’r amser i uno’r wlad ac i roi gwarchodaeth yn ei lle y bu aros hir amdani i warchod menywod rhag trais annerbyniol, gan gynnwys gweithredu yn erbyn llofruddiaethau cartref, treisio ac aflonyddu ar y stryd,” meddai David Lammy.

“A rhaid i ni fynd i’r afael â’r agweddau o atgasedd sy’n sail i’r sarhad mae menywod yn ei wynebu.”

Mae’n cyhuddo’r Ceidwadwyr o “geisio hollti’r wlad” gyda’u deddfwriaeth arfaethedig, gan ddweud y bydd y Blaid Lafur yn ei gwrthwynebu ar sail y ffaith ei bod yn “anghymesur”.