Mae Heddlu Llundain wedi amddiffyn ymddygiad plismyn y llu yn ystod gwylnos i gofio Sarah Everard, dynes 33 oed y cafwyd hyd i’w chorff yng Nghaint wrth i blismon gael ei gyhuddo o’i llofruddio.
Mae Wayne Couzens, 48, wedi’i gyhuddo o’i llofruddio.
Daeth pobol ynghyd yn Clapham Common i gynnal gwylnos ond roedd gwrthdaro â’r heddlu yn ystod y digwyddiad wrth iddyn nhw amgylchynu’r fan lle’r oedd pobol yn gadael blodau.
Cafodd plismyn eu gweld yn gafael mewn menywod ac yn eu tywys nhw i ffwrdd mewn cyffion, wrth i’r heddlu gadarnhau bod pedwar o bobol wedi’u harestio am droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ac am dorri cyfyngiadau’r coronafeirws.
Mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, wedi galw am adroddiad o’r digwyddiadau tra bod Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar y Fonesig Cressida Dick, pennaeth Heddlu Llundain, i ystyried camu o’r neilltu.
Yn ôl Sadiq Khan, Maer Llundain, roedd y digwyddiadau’n “annerbyniol”, gan ddweud nad oedd ymateb yr heddlu’n “briodol nac yn gymesur”.
Ymateb yr heddlu
Serch hynny, mae Helen Ball, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu, yn dweud bod “gorfodaeth yn angenrheidiol” wrth ymateb i’r sefyllfa.
“Roedd cannoedd o bobol yn dynn wrth ymyl ei gilydd, gan achosi risg gwirioneddol o drosglwyddo Covid-19 yn hawdd,” meddai.
“Rhaid i’r heddlu weithredu er diogelwch pobol, dyma’r unig beth cyfrifol i’w wneud.
“Dydy’r pandemig ddim ar ben a dydy cynulliadau o bobol ledled Llundain a thu hwnt ddim yn ddiogel o hyd.
“Siaradodd yr heddlu sawl gwaith â’r sawl oedd wedi ymgynnull dros gyfnod estynedig o amser.
“Fe wnaethon ni annog y sawl oedd yno droeon i gydymffurfio â’r gyfraith ac i adael.
“Yn anffodus, fe wnaeth lleiafrif bach ddechrau siantio at yr heddlu, gan eu gwthio a thaflu eitemau.”
Cafodd dynes ei chlywed yn dweud wrth yr heddlu eu bod nhw “i fod i’n gwarchod ni”.
Ymateb
Mae Reclaim These Streets, y mudiad oedd wedi trefnu’r digwyddiad, yn dweud eu bod nhw’n “drist iawn ac yn grac” fod yr heddlu “wedi camdrafod menywod mewn gwylnos yn erbyn trais gan ddynion”.
Maen nhw’n dweud y dylai’r heddlu fod “wedi deall y byddai angen lle i alaru, myfyrio a dangos undod ar fenywod”.
Maen nhw’n galw am gydnabyddiaeth fod “y system gyfiawnder yn gadael menywod i lawr yn y modd mwyaf dinistriol”.
Roedd y digwyddiad answyddogol yn Llundain wedi’i drefnu wrth i’r digwyddiad swyddogol gael ei ganslo, ac roedd digwyddiadau tebyg ledled gwledydd Prydain.
Mae mudiad arall, Sisters Uncut, yn dweud y byddan nhw’n cynnal rali ger pencadlys Heddlu Llundain heddiw (dydd Sul, Mawrth 14).