Pobl yng Nghymru yw’r cyntaf ym Mhrydain i gael torri eu gwallt mewn salonau eleni, ar ôl i’r cyfyngiadau ar wasanaethau cyswllt agos gael eu llacio.
Caniatawyd i siopau trin gwallt a barbwyr ailagor heddiw (dydd Llun 15 Mawrth) ar gyfer apwyntiadau torri gwallt yn unig a chyda nifer o fesurau diogelwch ar waith i atal lledaeniad y coronafeirws.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yr wythnos ddiwethaf y byddai busnesau yn y sector, oedd ar gau ers dechrau’r cyfyngiadau clo ar 20 Rhagfyr, yn cael ailagor am eu bod wedi “mynd drwy bopeth sydd ei angen er mwyn gweithredu’n ddiogel”.
Dywedodd cwsmeriaid yn siop farbwr Sleep When You’re Dead yng Nghaerdydd eu bod yn teimlo “rhyddhad” ac yn “ffres” ar ôl torri eu gwallt am y tro cyntaf yn 2021.
“Dw i’n falch iawn!”
Dywedodd David Saunders, 38, sy’n rhedeg clinig gofal iechyd: “Cafodd fy apwyntiad ei ganslo pan wnaethon nhw gau ym mis Rhagfyr, felly dydw i ddim wedi cael torri ‘ngwallt ers yr haf.
“Dw i’n falch iawn!
“Roeddwn i’n mynd ychydig yn wallgo’.
“Mae ‘ngwraig yn dweud bod cael torri ‘ngwallt yn bwysig iawn i sut ydw i o gwmpas y tŷ, a gyda theulu a gwaith.
“Pan mae fy ngwallt yn llanast, dwi’n teimlo fel petawn i’n ymddangos fel llanast.
“Mae llawer o’m cyfarfodydd ar-lein, ac rwy’n teimlo fel pe na bawn i’n portreadu fy musnes yn y ffordd y byddwn i eisiau.
“Felly mae wedi cael effaith enfawr.”
Dywedodd Mr Saunders hefyd ei fod wedi gweld eisiau’r agwedd gymdeithasol ar ymweld â’i farbwr, gan ychwanegu: “Rwy’n credu bod yr agwedd iechyd a seicoleg yn cael ei thanbrisio’n fawr.”
Dywedodd Dan Thain, 36, sy’n berchen ar fusnes tân a diogelwch: “Rwy’n teimlo’n ffres, ychydig yn fwy normal ac yn barod i fynd eto.
“Mae fel petai y gallwn ni weld golau ym mhen draw’r twnnel.
“Os ydych chi’n delio â chwsmeriaid, mae’n edrych yn dda os byddwch chi’n cyrraedd ac yn edrych ac yn teimlo ychydig yn fwy siarp.”
Ymhlith y mesurau diogelwch yn y siop farbwr mae gwneud i staff a chwsmeriaid wisgo masgiau wyneb a ffedogau, diheintio dwylo wrth fynd i mewn, a diheintio gorsafoedd gwaith, offer a chadeiriau rhwng pob cwsmer, hefyd.
Mae trimio barf yn parhau wedi’i wahardd, mae’n rhaid i gwsmeriaid gwblhau ffurflenni tracio ac olrhain, ac mae’r siop hefyd yn cael ei glanhau’n ddwfn ar ddiwedd pob diwrnod.
“Mae canol dinas Caerdydd yn hollol wag.”
Dywedodd y rheolwr, Adrian Rooke, ei fod yn falch y gallai ei staff ddychwelyd i’r gwaith, ond dywedodd fod y busnes yn dibynnu ar ddiwydiannau eraill yn ailagor yng nghanol dinas Caerdydd.
Dywedodd: “Mae ein cymuned ni’n gymuned economaidd fach sy’n dibynnu ar gynifer o bethau.
“Does dim byd ar agor yng nghanol y ddinas ar hyn o bryd.
“Mae gweithwyr swyddfa i ffwrdd, does dim theatr, casino, bwytai, clybiau, tafarndai na bariau gwin.
“Mae canol dinas Caerdydd yn hollol wag.
“Rydyn ni angen busnesau eraill i ddychwelyd.”
Dywedodd Mr Rooke y dylid cael “grantiau dychwelyd i’r gwaith” i helpu busnesau bach annibynnol, fel ei fusnes ei hun, nad ydynt yn gallu gweithredu fel arfer oherwydd cyfyngiadau parhaus.
Ailagor salonau gwallt ddydd Llun yw’r llacio cyntaf ar reolau ar gyfer gwasanaethau cyswllt agos ers i Gymru ailddechrau’r cyfyngiadau clo yn ôl ym mis Rhagfyr. Mae disgwyl i fusnesau fel parlyrau ewinedd a salonau harddwch aros ar gau tan o leiaf Ebrill 12.
Cafodd y cyfyngiadau “aros gartref” eu codi ddydd Sadwrn wrth i’r wlad symud i gyfnod “aros yn lleol”, gyda disgwyl i gyfyngiadau teithio gael eu llacio ymhellach mewn pryd ar gyfer y Pasg.
Roedd cyfradd achosion saith diwrnod Cymru ddydd Llun yn 39 achos i bob 100,000 o bobl, sef yr isaf o hyd o unrhyw wlad yn y DU.