Mae teuluoedd tri physgotwr a aeth ar goll ym mis Ionawr wedi cael gwybod ar ôl i gyrff gael eu canfod o’r môr ger Cilgwri a Blackpool, meddai’r heddlu.
Roedd Carl McGrath, 34, Ross Ballantine, 39, ac Alan Minard, 20, ar fwrdd y Nicola Faith pan adawodd Conwy ar 27 Ionawr.
Lansiwyd chwiliad mawr pan fethodd y cwch â dychwelyd – ond cafodd y chwilio ei atal ddeuddydd yn ddiweddarach ar ôl methu â’u canfod.
Ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn ymwybodol bod cyrff tri dyn wedi eu tynnu o’r môr oddi ar arfordir Cilgwri a Blackpool dros y penwythnos.
Dywedodd y llefarydd: “Rydym wedi bod mewn cysylltiad â chydweithwyr o Heddlu Glannau Mersi a Heddlu Swydd Gaerhirfryn, ac rydym yn aros am ganlyniad archwiliadau post-mortem y Swyddfa Gartref.
“Mae teuluoedd aelodau criw y llong Nicola Faith wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf, ac yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.”
Mae mwy na £55,000 wedi’i godi ar dudalen JustGiving a sefydlwyd gan deuluoedd y dynion i dalu am chwiliad preifat, dan arweiniad yr arbenigwr adfer dŵr dwfn David Mearns.
Yn gynharach y mis hwn, dywedodd y Gangen Damweiniau ac Ymchwilio Morol (MAIB) fod rafft bywyd y cwch wedi’i ganfod oddi ar arfordir Kirkcudbrightshire yn yr Alban gan Wylwyr y Glannau.