Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod hi’n fwriad gan Lywodraeth Cymru gael pob myfyriwr yn dychwelyd i brifysgolion Cymru ar Ebrill 12.

Bydd myfyrwyr yn cael cynnig profion Covid-19 cyn dychwelyd i’r brifysgol, gyda phrofion llif unffordd yn cael eu cynnig i fyfyrwyr a staff sydd methu gweithio o adref yn rheolaidd, a hynny ddwywaith yr wythnos.

“Rydym ni’n disgwyl y bydd pob myfyriwr yn cael dychwelyd ar Ebrill 12, ar gyfer derbyn cyfuniad o addysg wyneb yn wyneb ac addysg ar-lein am weddill tymor yr haf,” meddai Kirsty Williams yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg.

“Mae prifysgolion wedi cynllunio bod mwy o addysgu yn digwydd yn nhymor yr haf, o gymharu â’r arfer,” meddai.

“Rwyf yn hynod ddiolchgar i fyfyrwyr am gydymffurfio o dan amgylchiadau anodd,” ychwanegodd.

“Nid oes yr un genhedlaeth arall wedi gorfod goddef profiad prifysgol mor wahanol.”

“Mor ddiogel ag sy’n bosib”

“Mae ein prifysgolion i gyd wedi gweithredu ar ddulliau cadarn i atal lledaeniad Covid-19, ac nid ydym wedi gweld lefelau uchel o drosglwyddo’r feirws mewn safleoedd addysg,” meddai Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, a oedd hefyd yn y gynhadledd i’r wasg.

“Mae ein prifysgolion mor ddiogel rhag Covid-19 ag sy’n bosib.

“Yng Nghymru, mae’n ymddangos mai ychydig iawn o drosglwyddiad sydd wedi bod rhwng cymunedau myfyrwyr a’r gymuned ehangach, ac mae’r ystadegau yn dangos bod cyfradd yr achosion ymysg myfyrwyr yn isel yma,” ychwanegodd.

Dim cynlluniau i newid gwyliau ysgol

Does “dim cynlluniau ar unwaith” i newid dyddiadau gwyliau ysgol yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, meddai Kirsty Williams.

Dywedodd wrth y gynhadledd i’r wasg fod £78 miliwn wedi’i ddarparu i ysgolion a cholegau i sicrhau bod ganddynt y staff a’r adnoddau i gefnogi disgyblion.

“Does dim cynlluniau ar unwaith i newid dyddiadau gwyliau ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon,” ychwanegodd Ms Williams.

“O ran sut olwg fydd ar ysgolion ym mis Medi, rwyf wedi dysgu dros y flwyddyn ddiwethaf i beidio â ceisio rhagweld.

“Yn amlwg, byddwn am i ysgolion ddychwelyd i normal – yr hen normal – gymaint â phosibl ond mae’n amhosibl ar hyn o bryd i ddweud ble fyddwn ni gyda rhai o fesurau diogelwch Covid y bu’n rhaid i ni eu rhoi ar waith.”

Y gyfradd achosion

Mae cyfradd achosion Covid-19 wedi disgyn i tua 40 achos ar gyfer pob 100,000 o’r boblogaeth erbyn hyn, sy’n “hynod galonogol”, yn enwedig ag ystyried yr amrywiolyn newydd, yn ôl y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol .

Erbyn hyn, mae 1.1 miliwn o bobol yng Nghymru wedi derbyn eu brechlyn cyntaf, gyda dros 264,000 wedi derbyn yr ail ddos.

“Mae hyn yn golygu bod dros 35% o boblogaeth Cymru wedi derbyn y dos cyntaf, a bron i 10% wedi derbyn y ddau,” meddai Dr Jones.

“Rydym ar y llwybr cywir i gyrraedd y garreg filltir nesaf, sef gallu cynnig y brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth pump i naw erbyn canol Ebrill, â chymryd bod cyflenwad y brechlyn yn parhau’r un fath.”

Ton arall eto?

Gofynnwyd i Dr Jones am y tebygolrwydd o don arall o Covid-19 yn ddiweddarach yn 2021, yn ogystal â’r angen am gyfyngiadau llym pellach.

Atebodd: “Rydym yn cydnabod bod hwn yn haint trosglwyddadwy iawn ac rydym hefyd yn sylweddoli y bydd llacio cyfyngiadau yn cynyddu, o bosibl, y risg o drosglwyddo.

“Mae’n teimlo fel bod rheoli’r pandemig hwn fel ceisio rheoli cyflymder car lle mae’r sbardun yn sownd i’r llawr a’r unig ffordd y gallwch reoli’r cyflymder yw drwy ddefnyddio’r brêc, sef yr hyn a wnawn gyda mesurau cloi.

“Cyn gynted ag y byddwch yn llacio eich troed ar y brêc, bydd y car yn cyflymu eto. Rydym yn gwybod, os byddwn yn llacio’n rhy gyflym o lawer, y byddwn yn gweld ymchwydd mewn achosion a thonnau arall.”

Dywedodd Dr Jones bod Llywodraeth Cymru yn lleddfu cyfyngiadau yn ofalus iawn, ac yn ceisio asesu effeithiau unrhyw newidiadau.

Ychwanegodd: “Mae’r rhaglen frechu, fel y nodais, yn bwysig yn hyn o beth ond nid yw’n mynd i roi amddiffyniad llwyr i ni.

“Mae hyn yn dal i fod yn broblem wrth symud ymlaen. Yn sicr, bydd yn rhaid inni wylio am y risg o ymchwydd pellach ar ôl yr haf.”

Y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd

Daw hyn wrth i ragor o ddisgyblion ysgolion cynradd ddychwelyd i’r dosbarth yng Nghymru heddiw (dydd Llun, Mawrth 15), tra bod addysgu wyneb yn wyneb hefyd wedi ailddechrau i ddysgwyr ym mlynyddoedd 11 a 13.

Ailagorodd siopau trin gwallt a barbwyr ar gyfer apwyntiadau yn unig heddiw.

Ddydd Sadwrn, cafodd y cyfyngiadau “aros gartref” eu codi yng Nghymru, gan newid i gyfyngiadau “aros yn lleol”, ac mae disgwyl i gyfyngiadau teithio gael eu llacio ymhellach erbyn y Pasg.

Mae pedwar person o ddwy aelwyd bellach yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi – tra gall cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau pêl-fasged, cyrtiau tenis a chyrsiau golff, ailagor.

Gall un person ymweld â phreswyliwr mewn cartrefi gofal gyda chaniatâd, hefyd.

Bydd siopau sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol yn dechrau ailagor yn raddol o 22 Mawrth ymlaen.

Ffigurau diweddaraf

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cyfanswm o 1,122,931 dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach wedi’u rhoi yng Nghymru, cynnydd o 9,433.

Dywedodd yr asiantaeth fod 264,255 o ail ddosau wedi’u rhoi hefyd, cynnydd o 6,857.

Cofnodwyd 248 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 206,653.

Adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru am ddwy farwolaeth arall, gan fynd â’r cyfanswm hwnnw ers dechrau’r pandemig i 5,454.