Mae Hybu Cig Cymru wedi ymestyn eu hymrwymiad i amaeth sy’n gynaliadwy yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol trwy ymuno â’r Ford Gron Fyd-eang ar Gig Eidion Cynaliadwy.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Hybu Cig Cymru eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy i’r sectorau cig oen ac eidion.

Roedd y weledigaeth – ‘Y Ffordd Gymreig’ – yn amlygu fod Cymru eisoes mewn sefyllfa dda i gynhyrchu cig coch gydag allyriadau isel iawn.

Mae’r Ford Gron Fyd-eang ar Gig Eidion Cynaliadwy yn sefydliad rhyngwladol sy’n hyrwyddo cynhyrchu cig eidion sy’n rheoli adnoddau naturiol yn gyfrifol, yn cefnogi diwylliant a hawliau dynol, ac yn parchu lles anifeiliaid.

Sicrhau dulliau ffermio “cynaliadwy a chyfrifol”

“Yng Nghymru rydym yn benderfynol o brofi y gellir cynhyrchu cig coch yn unol â’n hamgylchedd hefyd gefnogi economi a diwylliant ein gwlad,” meddai Gwyn Howells, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru.

“Mae ymchwil a wnaed ar gyfer ein dogfen ‘Y Ffordd Gymreig’ yn dangos, o’i chymharu â llawer o systemau ffermio eraill, bod y ffordd y mae cig eidion yn cael ei gynhyrchu yma yn arwain at lawer llai o allyriadau.

“Gallwn gynhyrchu cig eidion o ansawdd rhagorol gan ddefnyddio’n bennaf yr adnoddau toreithiog o laswellt a dŵr glaw sydd gennym wrth ein traed,” eglura.

“Rydym yn falch o ymuno â sefydliadau o’r un anian ar draws y byd i rannu ymchwil a gwybodaeth, gyda’r nod o sicrhau dulliau ffermio cig coch sy’n gynaliadwy a chyfrifol.”

“Mae’r Ford Gron yn gyffrous i groesawu Hybu Cig Cymru fel ei aelod mwyaf newydd,” meddai Ruaraidh Petre, Cyfarwyddwr Gweithredol y Ford Gron Fyd-eang ar Gig Eidion Cynaliadwy.

“Wrth i’n nodau byd-eang gael eu cwblhau a’u rhyddhau mae mewnwelediad a chefnogaeth Hybu Cig Cymru yn bwysig.”