Mae Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, wedi condemnio’r “erchylltra” yn ystod degawd o wrthdaro yn Syria wrth iddo gyhoeddi sancsiynau yn erbyn chwe unigolyn sy’n gysylltiedig â chyfundrefn Bashar Assad.
Roedd gweinidog tramor Syria Faisal Miqdad ymhlith y grŵp o swyddogion milwrol a dynion busnes gyda chysylltiadau â’r gyfundrefn a oedd yn destun rhewi asedau a gwaharddiadau teithio.
Rhain yw’r mesurau cyntaf i gael eu cymryd mewn perthynas â Syria o dan drefn sancsiynau’r Deyrnas Unedig, a ddaeth i rym ar ôl diwedd cyfnod pontio Brexit.
“Mae cyfundrefn Bashar Assad wedi achosi degawd o erchylltra i bobol Syria am fynnu cael diwygio heddychlon,” meddai Dominic Raab.
“Heddiw, rydym yn dal chwe unigolyn arall o’r gyfundrefn i gyfrif am eu hymosodiad ar yr union ddinasyddion y dylent fod yn eu diogelu.”
Y rhai sy’n wynebu sancsiynau yw’r gweinidog tramor Faisal Miqdad, cynghorydd arlywyddol Luna al-Shibl, yr arianwr Yassar Iddewef, y dyn busnes Muhammad Bara’ al-Qatirji a’r swyddogion milwrol Malik Aliaa a Zaid Salah.