Mae miloedd o giosgau ffôn traddodiadol yn cael eu cynnig i gymunedau er mwyn cael eu defnyddio ar gyfer pob math o bethau, o gadw llyfrau i gadw ddiffibrilwyr.

Cyhoeddodd BT bod bron i 4,000 o giosgau coch ar draws gwledydd Prydain ar gael i gymunedau yn sgil twf poblogrwydd ffonau symudol.

Ers 2008, mae mwy na 6,600 o giosgau wedi cael eu prynu gan gymunedau am £1 yr un drwy raglen Mabwysiadu Ciosg.

Mae’r hen giosgau wedi cael eu troi yn unedau i gadw diffibrilwyr, amgueddfeydd hanes bychan, orielau celf, a chyfnewidfeydd llyfrau.

‘Syniadau gwych’

“Gan fod y rhan fwyaf o bobol yn defnyddio ffonau symudol nawr, mae wedi arwain at gwymp anferth yn nifer y bobol sy’n ffonio o giosgau,” meddai James Browne o gwmni BT.

“Ar yr un pryd, mae signal ffonau symudol wedi gwella’n sylweddol yn ddiweddar yn sgil buddsoddi mewn mastiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

“Rydym ni’n ad-drefnu ein ciosgau ar gyfer y dyfodol, ac mae rhaglen Adopt a Kiosk yn caniatáu i gymunedau ar draws gwledydd Prydain gael gafael ar eu ciosg lleol a rhoi defnydd newydd iddo.

“Eisoes, mae miloedd o gymunedau wedi cael llwyth o syniadau gwych ar sut i ailddefnyddio’u ciosg lleol.”

‘Safleoedd delfrydol i osod diffibrilwyr’

Mae’r elusen Community Heartbeat Trust wedi gosod diffibrilwyr mewn tua 800 o giosgau, ac yn bwriadu gwneud yr un fath â 200 arall.

“Mae gosod yr offer yng nghanol y gymuned yn bwysig i arbed amser,” meddai Martin Fagan, trysorydd cenedlaethol yr elusen.

“Yn draddodiadol, mae ciosgau wedi’u gosod yng nghanol cymunedau, felly maent mewn safleoedd delfrydol i osod y diffibrilwyr.”

Yn ogystal, mae dros 400 ciosg wedi cael eu huwchraddio gan BT i fod yn unedau digidol sy’n cynnig Wi-Fi sydyn i’r cyhoedd am ddim, ac yn arolygu’r amgylchedd.