Mae dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad a marwolaeth dynes yn Ninbych-y-Pysgod y llynedd wedi cael ei rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y crwner wedi dyfarnu bod Jean Evans wedi marw o achosion naturiol.

Cafwyd hyd I’w chorff mewn carafan ym Mharc Kiln, Dinbych-y-Pysgod ar Dachwedd 20 y llynedd.

Ychwanegodd yr heddlu bod yr achos bellach ar ben ac na fydd unrhyw gamau pellach yn erbyn y dyn a gafodd ei arestio.