Mae pennaeth grŵp brechu Prifysgol Rhydychen wedi amddiffyn eu brechlyn, wedi i nifer o wledydd atal y defnydd o frechlyn AstraZeneca.

Er bod yr Athro Andrew Pollard yn cydnabod ei bod yn bwysig archwilio adroddiadau fod y brechlyn yn ceulo’r gwaed, dywedodd fod data gan filiynau o bobol yn “galonogol iawn” ac yn dangos nad oes cysylltiad rhyngddynt.

Yr Iseldiroedd yw’r wlad ddiweddaraf i atal y defnydd o’r brechlyn yn sgil pryderon am sgil-effeithiau posib.

Bydd yr Iseldiroedd yn atal y defnydd nes Mawrth 29 ar y cynharaf, gan ddilyn penderfyniad tebyg yn Iwerddon.

Mae Denmarc, Norwy, Bwlgaria, Gwlad yr Iâ, a Thailand wedi atal y defnydd dros dro, hefyd.

“Diogelwch yn hollbwysig”

Wythnos ddiwethaf, dywedodd y Sefydliad Iechyd y Byd, yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, ac Asiant Rheoleiddio Meddyginiaeth a Gwasanaeth Iechyd y Deyrnas Unedig nad oes unrhyw dystiolaeth sy’n dangos bod cysylltiad rhwng y pigiad a risg uwch o geulo’r gwaed.

Meddai’r Athro Pollard, “mae diogelwch yn hollbwysig”, ond mae tua 3,000 o achosion o geulo’r gwaed yn digwydd bob mis ym Mhrydain yn sgil achosion eraill.

“Felly, wrth ychwanegu’r ymgyrch frechu at hynny, mae’n amlwg fod yr achosion hyn o geulo’r gwaed yn parhau i ddigwydd ac mae’n rhaid trio gweld a ydyn nhw’n gysylltiedig â’r brechlyn ai peidio,” meddai wrth raglen Today at BBC Radio 4.

Yn ôl yr Athro Pollard, mae dros 11 miliwn ddos o’r brechlyn wedi’i roi yn y Deyrnas Unedig hyd yn hyn, ac mae Asiant Rheoleiddio Meddyginiaeth a Gwasanaeth Iechyd y Deyrnas Unedig wedi dweud “yn glir iawn nad oes cynnydd yn nifer yr achosion o’r gwaed yn ceulo”, o gymharu â’r arfer.

“Ar hyn o bryd, mae gennym ni ran fwyaf o’r data o’r Deyrnas Unedig, sy’n edrych yn galonogol, ond mae’n iawn fod diogelwch y brechlyn yn cael ei asesu’n ofalus.”

Cyfeiriodd yr Athro at “beryglon mawr” Covid-19 i bobol sydd heb gael eu brechu, gan ychwanegu “os nad oes gennym frechlyn, ac rydym ni’n codi’r cyfnod clo yma, byddwn yn gweld degau o filoedd yn rhagor o farwolaethau yn ystod y flwyddyn hon.”

“Mae nifer o wledydd o amgylch Ewrop yn gweld cynnydd mewn achosion, eto,” ychwanegodd.

“Ewch i gael eich brechlyn”

Meddai’r Athro Anthony Harnden, dirprwy Gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, “mae’r brechlyn yma yn sâff yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, AstraZeneca, Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, ac Asiant Rheoleiddio Meddyginiaeth a Gwasanaeth Iechyd y Deyrnas Unedig.”

“Mae’r data yr ydym ni’n edrych arno yn wythnosol yn y Cyd-bwyllgor ar Imiwnedd a Brechu, ac yn ddyddiol yn Asiant Rheoleiddio Meddyginiaeth a Gwasanaeth Iechyd y Deyrnas Unedig yn dangos nad oes cysylltiad, felly mae’n iawn i ni barhau gyda’r brechu yma.

“Byddwn yn parhau i asesu hyn, ac os oes unrhyw beryglon posib byddwn yn dweud wrth y cyhoedd yn syth.

“Ar hyn o bryd, mae’r neges yn hollol glir – ewch i gael eich brechlyn pan fyddwch yn cael ei gynnig.”

Wrth drafod sgil-effeithiau posib brechlyn AstraZeneca, dywedodd yr Athro Harnden bod merched yn fwy tebygol o ddioddef na dynion.

“Mae’n ymddangos bod dos cyntaf o’r brechlyn yn rhoi dipyn o sgil-effeithiau bach: braich boenus, gwres, cur pen, ac weithiau’n rhoi iasau a allai bara am 48 awr.

“Mae y rhain yn ymddangos yn amlach ymysg merched, a merched iau,” eglurodd.

“Os ydych chi’n cael sgil-effeithiau ar ôl brechlyn cyntaf yr AstraZeneca, cymerwch barasetamol.

“I’r gwrthwyneb, mae ail ddos y brechlyn Pfizer yn fwy tebygol o roi sgil-effeithiau.”

Brechlyn AstraZeneca

Yr Iseldiroedd yw’r wlad ddiweddaraf i atal y defnydd o frechlyn AstraZeneca

Mae’n dilyn adroddiadau am broblemau ceulo’r gwaed ymhlith pobl oedd wedi cael eu brechu yn Norwy