Mae Ceidwadwyr yr Alban wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn Nicola Sturgeon, yn ôl arweinydd y blaid.
Yn ôl Douglas Ross, mae Nicola Sturgeon wedi dweud celwydd wrth y Senedd ynghylch yr hyn roedd hi’n ei wybod am y cyhuddiadau o aflonyddu yn erbyn Alex Salmond.
Mae’r Prif Weinidog wedi cyfeirio ei hun tuag at archwiliad gan y cynghorwr annibynnol ar y côd gweinidogol, ac mae’n edrych ar y cyhuddiadau.
“Mae’r dystiolaeth yn erbyn Nicola Sturgeon yn ysgubol,” meddai Douglass Ross, “ac mae mwy yn ymddangos bob dydd.
“Os ydym yn gadael iddi ffoi rhag hyn, yna rydym ni’n dweud fod y gwir yn ddiwerth yng ngwleidyddiaeth yr Alban.”
Pwyllgor Archwilio
Daw ei alwadau wrth i’r pwyllgor sy’n archwilio i ymddygiad Alex Salmond, cyn-Brif Weinidog yr Alban, fynnu cael gweld yr ohebiaeth rhwng uwch-weision sifil Llywodraeth yr Alban.
Ni fydd yr archwiliad yn mynnu gweld y dystiolaeth a gafodd ei roi i’r amddiffyniaeth yn yr achos llys yn ei erbyn.
Er hynny, maen nhw wedi gofyn i Swyddfa’r Goron am gael gweld yr holl ohebiaeth rhwng uwch swyddogion y Llywodraeth ynghylch y ffordd y cafodd y cwynion yn erbyn Alex Salmond eu trin.
Mae’r gorchymyn yn dweud fod y pwyllgor yn ceisio gweld a oes tystiolaeth i gefnogi’r honiad fod yr ymdriniaeth o’r cwynion yn erbyn Mr Salmond wedi ceisio dinistrio ei enw da.
Meddai Murdo Fraser, aelod Ceidwadol o’r pwyllgor: “Rydym yn benderfynol o ddefnyddio pob ffordd posib i weld pam fod llywodraeth Nicola Sturgeon wedi dilyn trywydd anghyfreithlon, a mynd yn erbyn cyngor cyfreithiol clir.
“Mae Nicola Sturgeon, a’r SNP, wedi gwneud popeth posib i atal tryloywder ac i atal y cyhoedd rhag cael gwybod pam fod y sawl a gwynodd wedi cael eu gadael i lawr – ac mae’r broses wedi costio o leiaf £600,000 i’r trethdalwyr.”