Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi lansio ymgyrchoedd i berswadio pleidleiswyr newydd i gofrestru.

Bwriad ymgyrch ‘Oes 5 ’da ti?’ yw atgoffa pleidleiswyr pa mod hawdd a chyflym yw cofrestru i bleidleisio, tra bod ymgyrch ‘Croeso i dy bleidlais’ yn targedu pobol 16-17 oed, a dinasyddion tramor cymwys yng Nghymru.

Am y tro cyntaf, bydd y ddau grŵp yma yn cael pleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru eleni, ac mae’r ymgyrch yn croesawu’r pleidleiswyr newydd hyn i ddemocratiaeth ac yn eu hannog gofrestru i bleidleisio ar-lein.

Bydd y ddwy ymgyrch yn cael eu cynnal ar draws sawl sianel cyfryngau digidol, hyd nes y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar Ebrill 19.

“Adeg pwysig yn ein democratiaeth”

“Mae cael y cyfle i bleidleisio yn gwneud i mi deimlo bod fy llais yn cael ei glywed a’i werthfawrogi, ac rwy’n gwybod bod y dyfodol yn ein dwylo ni,” meddai Sarah Abdellatif, sy’n 17 oed ac yn wirfoddolwr gyda Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru.

“Roedd cofrestru i bleidleisio yn gyflym ac yn rhwydd, a byddwn yn annog pob pleidleisiwr newydd i gymryd 5 munud i wneud hyn,”

“Mae’n adeg bwysig yn ein democratiaeth yng Nghymru ac yn hanes y Senedd,” yn ôl Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru.

“Ble bynnag y cawsoch eich geni, os ydych yn 16 oed neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru, gallwch gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd.

“Cyn diwrnod yr etholiad, rydym am i bob pleidleisiwr cymwys yng Nghymru gofrestru i bleidleisio a chymryd rhan yn ein democratiaeth, a dyna sylfaen ein hymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr.

“Roedd mwy na 2 filiwn o bobl wedi eu cofrestru i bleidleisio yng Nghymru cyn yr etholiad cyffredinol yn 2019. Gyda’r grwpiau sydd newydd eu rhyddfreinio, rydym am gynyddu’r rhif hwn yn sylweddol ar gyfer etholiad y Senedd,” ychwanega.

“Cofrestrwch i bleidleisio nawr trwy fynd i www.gov.uk/cofrestruibleidleisio.”