Mae undeb amaethwyr am gynnal hystingau i roi cyfle i ffermwyr holi darpar ymgeiswyr cyn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai.

Bydd yr hystingau gan Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn digwydd trwy Zoom ac yn rhoi cyfle i aelodau glywed gan yr ymgeiswyr am bolisïau amaethyddiaeth eu priod bleidiau.

Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Mae’r Etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai yn hanfodol bwysig i’r sector amaeth yng Nghymru a bydd Llywodraeth newydd Cymru yn wynebu heriau digynsail.

“Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd gennym gyfle i ofyn am ymrwymiadau gan ddarpar aelodau’r Senedd yn y nifer o hystingau rhithwir sy’n cael eu cynnal. Ni fydd angen teithio ac ni fydd angen bod i ffwrdd o’r fferm.

‘Anwybyddu’

“Yn yr etholiad hwn bydd yr ymgeiswyr yn dod i’n sgrin gyfrifiadur ac mae angen i ni sicrhau bod ymgeiswyr sy’n dyheu am fod yn rhan o Lywodraeth nesaf Cymru yn ymwybodol o’r ffaith na allwn ni fel diwydiant gael ein hanwybyddu mwyach.

“Byddem yn annog aelodau o’r gymuned ffermio i fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn cwestiynau i’r rhai sy’n awyddus i’w cynrychioli yng Nghaerdydd ar gyfer tymor nesaf Senedd Cymru.”

Mae hystingau wedi’u trefnu ar y dyddiadau canlynol:

Llun 12 Ebrill, 7.30yh – Llanelli

Mawrth 13 Ebrill, 7.30yh – Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Llun 19 Ebrill, 7.30yh – Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Llun 19 Ebrill, 7.30yh – Ynys Môn

Mawrth 20 Ebrill, 7.30yh – Meirion Dwyfor

Mercher 21 Ebrill, 7.30yh – Sir Drefaldwyn

Iau 22 Ebrill, 7.30yh – Sir Benfro

Iau 22 Ebrill, 7.30yh – Caernarfon

Llun 26 Ebrill, 7yh – Brycheiniog a Maesyfed

Iau 29 Ebrill, 7.30yh – Ceredigion

Mae’r undeb wedi annog aelodau i gysylltu â’u swyddfa leol i gael y manylion ymuno.