Mae dyn o Ddoc Penfro sy’n ymddiddori mewn ceir clasurol yn helpu i godi arian ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg trwy gynnal taith ceir clasurol.
Bydd y daith a drefnwyd gan Malcolm Powell yn dechrau am 10.30am ym maes parcio Fort Road yn Noc Penfro dydd Sul nesaf, Ebrill 11.
Byddant y modurwyr yn gyrru heibio Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, yna ymlaen i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin cyn dychwelyd adref.
Bydd y ceir yn gyrru’n araf heibio’r ysbytai i ddangos eu diolch i’r staff sydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino trwy’r pandemig.
Gwych
Bydd yn arddangosfa wych o geir clasurol ac anogir gwylwyr i wylio o bellter diogel wrth ddilyn canllawiau pellhau cymdeithasol a rhoi rhodd i’r digwyddiad.
Gofynnir i’r cyfranogwyr dalu £10 y car ac mae Malcolm hefyd yn casglu arian nawdd.
I unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan neu gyfrannu, cysylltwch â Malcolm ar 01646 682 619.
Bydd yr holl arian a godir o’r daith yn mynd i Ysbyty Llwynhelyg, dywedodd Malcolm “Ar ôl y flwyddyn rydyn ni wedi’i chael, roeddwn i eisiau rhoi yn ôl i’r GIG. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i helpu a dweud diolch. Mae fy wyres yn barafeddyg a chredaf fod staff y GIG yn bobl wirioneddol wych. ”
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Malcolm a phawb sy’n cymryd rhan yn y daith ceir clasurol. Bydd yn ddigwyddiad gwych ac yn hwyl i’w wylio. Bydd yr arian a godir yn cefnogi gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu. ”
I ddarganfod mwy am Elusennau Iechyd Hywel Dda, gan gynnwys ffyrdd i gefnogi #EichElusenGIG ewch i elusennauiechydhyweldda.org.uk