Mae mwy na 10 o ymgeiswyr Plaid Diddymu’r Cynulliad (Abolish the Assembly Party) wedi “tynnu allan” o etholiad y Senedd, yn ôl eu harweinydd.

Daw’r newyddion wedi i Gareth Bennett, un o’r ddau Aelod Diddymu o’r Senedd, gyhoeddi y byddai’n rhedeg yn annibynnol yn etholiad eleni.

Megis dechrau mae’r ymgyrchu am etholiad Mai 6, ac yn ôl Richard Suchorzewski, arweinydd Plaid Diddymu, cenedlaetholwyr sydd ar fai am y datblygiadau diweddar.

“Erbyn diwedd y dydd yfory mi ddylai Plaid Diddymu’r Cynulliad fod wedi cofrestru pob un o’n hymgeiswyr,” meddai brynhawn dydd Mawrth.

“Mae’n siomedig bod dros 10 wedi tynnu allan oherwydd aflonyddwch oddi wrth Genedlaetholwyr Cymreig, a’u hofn o oblygiadau sefyll.

“Dyma’r wlad yr ydym yn byw ynddi dan lywodraeth y Senedd.”

Ymateb tanllyd

Yn ymateb i’r newyddion mae’r ymgeisydd Diddymu yn sedd Blaenau Gwent, Richard Taylor, wedi cynnig beirniadaeth bellach o genedlaetholdeb.

“Dyma’r realiti o genedlaetholdeb yng Nghymru,” meddai.

“Mae’n poeri fitriol a chasineb at bobol dda. Ta waeth, rydym yn edrych ymlaen at weithio â’n hymgeiswyr ledled Cymru a’r frwydr i’n stopio rhag cerdded yn ein cwsg tuag at annibyniaeth.”

Mae ymgeisydd Llafur Blaenau Gwent, Alun Davies, wedi ymateb i’r newyddion â beirniadaeth o’r BBC.

“Mae’n bryd i BBC Wales Politics ddeffro,” meddai. “Maen nhw wedi eich defnyddio chi.”

Cyfeiriad yw hyn, mwy na thebyg, at y ffaith bod y BBC bellach wedi caniatáu i Blaid Diddymu gymryd rhan mewn dadl deledu arweinwyr.

Beth ddigwyddodd â Bennett?

Brynhawn dydd Mawrth, daeth i’r amlwg bod Gareth Bennett, Aelod o’r Senedd Canol De Cymru, y byddai’n sefyll yn annibynnol yn sedd Cwm Cynon eleni.

Ni fydd yn cynrychioli’r blaid o gwbl yn ystod etholiad eleni, ac mae Plaid Diddymu’r Cynulliad wedi dweud nad oes anghydweld na drwgdeimlad rhwng y ddwy ochr tros y mater.

Cafodd Gareth Bennett ei ethol i’r Senedd yn 2016 yn aelod UKIP. Trodd yn annibynnol yn 2019, ac yn 2020 mi ymunodd â Phlaid Diddymu’r Cynulliad.

Ymgeiswyr Cwm Cynon a Blaenau Gwent

Cwm Cynon

  • Llafur: Vikki Howells
  • Plaid Cymru: Geraint Benney
  • Ceidwadwyr: Mia Rees
  • Democratiaid Rhyddfrydol: Gerald Francis
  • Reform UK: Peter Hopkins
  • Annibynnol: Gareth Bennett

Blaenau Gwent

  • Llafur: Alun Davies
  • Plaid Cymru: Peredur Owen Griffiths
  • Ceidwadwyr: Edward Dawson
  • Democratiaid Rhyddfrydol: Paula Yates
  • Gwlad: Calen Jones
  • Plaid Diddymu: Richard Taylor

Ymateb y BBC i sylw Alun Davies

“Fel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu newyddion, dadansoddi a chraffu, bydd un rhaglen ddadl gydag arweinwyr Cymru ar BBC One Wales ar 29 Ebrill,” meddai llefarydd ar ran BBC Cymru.

“Wrth benderfynu ar gyfansoddiad y panel ar gyfer y rhaglen hon, bu’n rhaid gwneud penderfyniad golygyddol o ran beth yw’r lefel addas o sylw.

“Fe wnaethpwyd y penderfyniad hwnnw trwy ystyried lefelau o gefnogaeth etholiadol yn y gorffennol, yn ogystal ag unrhyw dueddiadau cryfion o ran cefnogaeth bresennol ynghyd â niferoedd ymgeiswyr sydd wedi eu cadarnhau.

“Ry’n ni’n hyderus bod ein prosesau golygyddol yn deg a diduedd wrth adlewyrchu realiti tirwedd gwleidyddol Cymru.

“Bydd BBC Cymru yn parhau i gynnig darpariaeth lawn o ymgyrch yr etholiad ar draws ei holl blatfformau newyddion.”