Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw ar i bleidiau eraill “gondemnio ymddygiad” Plaid Diddymu’r Cynulliad.

Mewn llythyr i arweinwyr pleidiau’r genedl, mae Adam Price hefyd yn galw ar arweinwyr i roi pwysau ar y BBC fel bod y Diddymwyr ddim yn cael cyfrannu at ddadl deledu’r arweinwyr.

Daw hyn wedi i’r gorfforaeth gyhoeddi y bydd arweinydd Plaid Diddymu, Richard Suchorzewski, yn cael cymryd rhan yn y ddadl.

Mae llythyr Mr Price yn ymateb i drydariad gan Ddiddymwr am Leanne Wood, AoS Plaid Cymru. Trydarodd lun ohoni gyda’r geiriau “wyneb hyll cenedlaetholdeb” (mae’r trydariad bellach wedi ei ddileu).

“Rwy’n gofyn i chi ymuno â mi i gondemnio ymddygiad y blaid ac anfon neges glir nad oes lle i hyn yn ymgyrch Etholiad y Senedd,” meddai Adam Price yn ei lythyr.

“Gofynnaf hefyd i chi gefnogi ein galwad ar y BBC i wyrdroi eu penderfyniad i wahodd Plaid Diddymu’r Cynulliad  i gymryd rhan yn y dadleuon teledu fel nad oes ganddynt y gofod i wenwyno disgwrs cyhoeddus Cymru ymhellach.

“Rydym oll yn dyheu am wleidyddiaeth fwy caredig ac mae gennym oll ran i’w chwarae i wireddu hyn drwy herio ymddygiad amharchus a sarhaus ble bynnag y bo.”

Yn ei lythyr mae’r arweinydd hefyd yn dweud ei fod yn “gresynu’n fawr” o weld “ymosodiad personol” Lee Canning, y Diddymwr, ar AoS y Rhondda.

Y Diddymwyr yn codi stŵr

Dros yr wythnos diwethaf mae aelodau Plaid Diddymu wedi bod yn codi tipyn o stŵr am fater y ddadl deledu.

Roedden nhw’n anfodlon am fod y gorfforaeth wedi penderfynu cynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol ond heb wahodd eu harweinydd hwythau.

Mae’r Welsh Barometer Poll diweddaraf yn darogan y bydd Plaid Diddymu yn denu mwy o bleidleisiau rhanbarthol na’r blaid felen (7% i 4%).

Brynhawn ddoe, yn ymateb i’r newyddion y bydd Richard Suchorzewski yn cael ei wahodd, bu aelodau’r blaid yn llawenhau ar gyfryngau cymdeithasol.

Er bod y Welsh Barometer Poll yn darogan y byddan nhw’n ennill pedair sedd, roedd arolwg barn ICM ar ddechrau’r mis yn proffwydo na fyddan nhw’n ennill yr un sedd.

“Asgell dde eithafol”

Brynhawn heddiw mi wnaeth Leanne Wood drydaru neges yn dweud na ddylid caniatáu i’r “asgell dde eithafol” gymryd rhan mewn dadleuon teledu.

“Ni ddylid caniatáu i’r asgell dde eithafol gymryd rhan mewn dadleuon teledu a rhannu eu casineb,” meddai AoS y Rhondda.

“Mae yna risg y bydd pobol yn cael eu niweidio, ac mae yna gyfrifoldeb ar ddarlledwyr i beidio caniatáu niwed a chasineb. Pwy sy’n cytuno?”

Yn ymateb i’r trydariad mae Richard Taylor, cydlynydd Diddymu yng nghanol de Cymru, wedi dweud: “Dyma nhw – yr ymosodiadau cyn dadl ddemocrataidd.”