Mae brechlyn Pfizer yn “100% effeithiol” ymysg plant sydd rhwng 12 a 15 oed, yn ôl astudiaeth newydd.
Bydd Pfizer yn ceisio cael caniatâd i ddefnyddio’r brechlyn ar gyfer y grŵp oedran hwn, ac maent yn gobeithio gallu eu brechu cyn dechrau’r flwyddyn ysgol nesaf.
Fe wnaeth ymchwilwyr edrych ar effaith brechlyn Pfizer/BioNTech mewn treial o 2,260 o blant yn eu harddegau yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd hanner y plant y brechlyn, a’r hanner arall gyffur plasebo.
Ni chafodd yr un achos o Covid ei gofnodi ymhlith y rhai oedd wedi cael y brechlyn, tra bod 18 achos wedi dod i’r amlwg ymysg yr hanner arall.
“Rydym ni’n rhannu’r brys i ymestyn defnydd y brechlyn i gynnwys pobol iau, ac rydym wedi’n calonogi gan ystadegau’r treial clinigol,” meddai Prif Weithredwr Pfizer.
“Mae pobol yn ysu am ddychwelyd i normalrwydd ar draws y byd. Mae hyn yn arbennig o wir ymysg plant,” meddai Ugur Sahin, Prif Weithredwr a chyd-sylfaenydd BioNTech.
“Awgryma’r ystadegau cychwynnol fod plant yn cael eu hamddiffyn yn arbennig o dda gan y brechlyn.
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n caniatáu i blant fynd yn ôl i’r ysgol bob dydd, cyfarfod ffrindiau a theulu, ac eu hamddiffyn nhw a’u hanwyliaid.”
Fis ar ôl derbyn ail ddos o’r brechlyn, roedd gan y plant a wnaeth gymryd rhan yn y treial “imiwnedd cryf” i’r feirws.
Dangosodd yr astudiaeth fod y sgil-effeithiau’n gyson gyda’r rhai ymysg bobol rhwng 16 a 25 oed.
Yn y cyfamser, mae Pfizer a BioNTech wedi dweud eu bod nhw’n treialu’r brechlyn ymysg plant sydd rhwng chwe mis ac un-ar-ddeg oed.