Mae Aelod Llafur o’r Senedd wedi wfftio arolwg barn diweddar sy’n darogan y canlyniad gwaethaf erioed i’r blaid goch ym mis Mai.

Mae’r Welsh Barometer Poll diweddaraf yn proffwydo y bydd y Blaid Lafur yn ennill 22 sedd yn yr etholiad eleni.

Ar hyn o bryd mae ganddi 29 sedd (yn sgil etholiad 2016), a 26 yw ei nifer isaf erioed (etholiad 2007), felly byddai’r fath ganlyniad yn sioc anferthol.

Ond yn siarad â gwefan LabourList mae Mick Antoniw, AoS Pontypridd, wedi galw’r broffwydoliaeth honno yn “rogue”.

“Mae’n llawer rhy gynnar i ni ddarogan y canlyniad,” meddai Mick Antoniw wrth LabourList. “Mae’n ddigon posib na fydd newid mawr o ran nifer seddi Llafur.

“Mae Llafur wedi bod mewn sefyllfa llawer gwaeth yn y polau piniwn cyn etholiad,” atega. “Dw i’n dyfalu y bydd gan Lafur, mwy na thebyg, yr un nifer o seddi.”

Pe bai Llafur yn methu ag ennill mwyafrif (dyw hi erioed wedi) mae Mick Antoniw yn credu mai’r “trefniant mwyaf tebygol fyddai rhwng Llafur a Phlaid”.

“Mae hyd yn oed siarad am drefniant gyda’r Ceidwadwyr yn fwy anodd yn awr i’r Blaid,” meddai, “a hynny oherwydd agwedd ymosodol [y Torïaid] at ddatganoli.”

Mae’r AoS yn dweud bod yna “bosibiliad go iawn” y gall Llafur gipio’r Rhondda yn ôl rhag Plaid Cymru. Leanne Wood, cyn-arweinydd y Blaid, enillodd y sedd honno yn 2016.

Hanes etholiadol Llafur

Mae gan y Blaid Lafur hanes hir o fethu, o drwch blewyn, ag ennill mwyafrif yn y Senedd (mae’r sustem bleidleisio wedi’r cwbl yn annog hynny).

Mae angen dros 30 sedd i ffurfio Llywodraeth â mwyafrif, ac ar hyn o bryd mae Llafur yn dibynnu ar gefnogaeth Dafydd Elis-Thomas (annibynnol) a Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol).

  • 1999: 28 sedd, 46.7% o’r bleidlais
  • 2003: 30 sedd, 50% o’r bleidlais
  • 2007: 26 sedd, 43.3% o’r bleidlais
  • 2011: 30 sedd, 50% o’r bleidlais
  • 2016: 29 sedd, 48.3% o’r bleidlais

Etholaeth Pontypridd

Mi fydd Mick Antoniw yn sefyll yn etholaeth Pontypridd unwaith eto eleni. Dyma’r ymgeiswyr eraill:

  • Plaid Cymru: Heledd Fychan
  • Ceidwadwyr: Joel James
  • Democratiaid Rhyddfrydol: Steven Rajam
  • Gwyrddion: Ken Barker
  • Plaid Diddymu’r Cynulliad: Mike Hughes
  • Reform UK: Jamie Jenkins