Y bore ’ma (Mawrth 31), roedd grisiau’r Senedd ym mae Caerdydd wedi eu gorchuddio mewn tomen o sbwriel, oedd wedi cael eu gwasgaru dros nôs.

Mae fideo sydd wedi ei rhannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos graddfa’r llanast, sy’n cynnwys nifer o boteli gwydr, bagiau plastig a bocsys cardbord cwrw.

Wrth i fwy o bobol fentro allan ar ôl peth llacio o gyfyngiadau’r coronafeirws, ac yn sgil y tywydd braf, mae’n ymddangos bod mannau poblogaidd yn ein trefi a’n dinasoedd yn dioddef.

Llanast llwyr

Mae’r fideo sydd wedi ei rannu at Twitter bellach wedi ei aildrydar dros fil o weithiau, gyda’r ffigwr yn cynyddu’n gyson.

Wrth ymateb i’r olygfa, mae pobl wedi galw’r rhai sy’n gyfrifol yn “ddiog” ac “anghyfrifol”, gydag un unigolyn o’r farn bod ymddygiad o’r fath yn dangos “cymdeithas ar chwâl”.

Fodd bynnag, mae’n debyg nad trefi a dinasoedd Cymru yw’r unig lefydd ble mae problemau taflu sbwriel wedi ei ddwysáu yn ddiweddar.

Mae’r digwyddiad yng Nghaerdydd wedi sbarduno eraill i rannau golygfeydd tebyg mewn mannau o Gymru dros y dyddiau diwethaf.

Ymateb Cyngor Caerdydd

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:

“Mae ein timau glanhau wedi bod yn gweithio’n galed ers 6am bore ‘ma yn clirio’r swm annerbyniol o sbwriel a adawyd ar ôl gan bobl yn mwynhau’r heulwen, ym Mae Caerdydd, a pharciau a mannau gwyrdd y ddinas.

“Cafodd yr ardal o amgylch y Senedd a’r Basn Hirgrwn ei chlirio a’i glanhau erbyn 9am bore ‘ma – roedd angen naw aelod o staff, dau sgubwr mecanyddol a dwy fan.

“Mae gwaith ar y raddfa hon yn gostus i drethdalwyr, yn cymryd llawer o amser, ac yn dargyfeirio adnoddau o rannau eraill o’r ddinas.

Mae biniau mawr ychwanegol yn cael eu gosod dros dro ym Mae Caerdydd heddiw a byddant i’w gweld mewn safleoedd parc allweddol dros y dyddiau nesaf.

“Mae’r cyfyngiadau Covid-19 presennol yn caniatáu i hyd at chwech o bobl, o ddwy aelwyd, gyfarfod yn yr awyr agored tra’n ymbellhau’n gymdeithasol a byddem yn annog ymwelwyr i Fae Caerdydd ac i’n parciau a’n mannau gwyrdd i ddilyn y rheolau hyn, a helpu i gadw Caerdydd yn ddiogel.”