Mae ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd wedi dweud y byddai’n “bradychu [ei] gyn-deidiau” pe bai’n newid plaid ar ôl dod yn Aelod o’r Senedd.

Plaid Cymru sydd wedi ennill y sedd ym mhob etholiad Senedd ers y cyntaf yn 1999 ac, ers y cychwyn, mae wedi ei chynrychioli gan un unigolyn.

Dafydd Elis-Thomas yw’r gŵr hwnnw, ond eleni mi fydd yn ildio’r awenau.

Mae yntau’n Ddirprwy Weinidog ac mi gefnodd ar y Blaid wedi etholiad 2016 gan barhau’n Aelod annibynnol o’r Senedd (er iddo gael ei ethol ar blatfform Plaid Cymru).

Yn herio’r sedd ar ran Plaid Cymru eleni mae Mabon ap Gwynfor. Tybed a fydd yntau’n aros yn driw i’r Blaid ac i’r etholaeth pe bai’n dod yn AoS?

“Does yna ddim amheuaeth am hynny o gwbl,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n gwbl gwbl ymroddedig. Dw i wedi bod yn aelod o’r Blaid erioed.

“Hynny yw, mae unrhyw un sydd yn fy nabod i yn gwybod bod y blaid yn rhan ohona’ i. Ac mae fy ymrwymiad i i’n cymunedau ni, i Ddwyfor Meirionnydd, i’r Fro [yn gadarn].

“O ran Dwyfor Meirionnydd mae fy achau teuluol yn mynd yn ôl yn ddyfn iawn yno.

“Mi fuaswn i’n bradychu fy nghyn-deidiau, a fy nheulu presennol, a fy nghyfeillion os fuasen i’n gwneud unrhyw beth arall.”

Gweithredu ‘er budd Caerdydd yn unig’

Wrth siarad gyda golwg360 mae ymgeisydd Propel Dwyfor Meirionnydd, Peter Read, wedi lladd ar y Blaid, gan eu cyhuddo o beidio â chyflawni digon ers dechrau datganoli.

Tybed beth yw barn Mabon ap Gwynfor am hynny?

“Dw i ddim eisiau chwarae’r gêm o ddilyn naratif pobol eraill,” meddai. “Dw i’n dilyn fy naratif i. Naratif y Blaid.

“Yr hyn sydd gyda ni ydy Llywodraeth Cymru lle mae Llafur wedi bod mewn grym yno ers bron i genhedlaeth. Mae’r lefelau cyflog isaf yn y Deyrnas Gyfunol yn parhau i fod yn Nwyfor Meirionnydd.

“Mae lefelau tlodi plant ar lefelau record. Mae pobol ifanc yn ei chael hi’n anodd ffeindio gwaith. Felly dyna lle mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ein hegni ni.

“A hynny er mwyn sicrhau bod gyda ni lywodraeth mewn grym ym Mae Caerdydd sydd yn gallu defnyddio’r grymoedd sydd ganddi er budd pob cymuned yng Nghymru, nid er budd ardal ddinesig Caerdydd yn unig.”

Pwy yw Mabon ap Gwynfor?

Mae’r ymgeisydd 42 oed yn ŵyr i un o ffigyrau enwocaf y Blaid, Gwynfor Evans, ac mae ganddo gysylltiadau cryf iawn â Phlaid Cymru.

Fe yw rheolwr swyddfa a phrif ymchwilydd Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ac mae hefyd yn gynghorydd gwleidyddol i Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

Ar ben hynny, mae’n gynghorydd Plaid Cymru tros ward Llandrillo ar Gyngor Sir Ddinbych.

Yn fab i weinidog, mae’n dweud ei fod “wedi byw ym mhob man yng ngorllewin tiriogaeth Cymru”.

Ar hyn o bryd mae’n byw yn Sir Ddinbych, ym mhentref Cynwyd, ger Corwen.

Ymgeiswyr Dwyfor Meirionnydd

Mae golwg360 wedi cysylltu â phob ymgeisydd yn Nwyfor Meirionnydd. Rhoddwyd sawl cynnig i Robert Glyn Daniels ond ni dderbyniwyd ymateb.

Mi fydd y wefan hefyd yn rhoi sylw i ymgeiswyr mewn etholaethau penodol eraill cyn yr etholiad.