Dylai cyfyngiadau covid gael eu llacio pan fo hynny’n “sâff”, yn ôl ymgeisydd Propel – plaid Neil McEvoy – yn Nwyfor Meirionnydd.

Ddydd Mercher mi gyhoeddodd y blaid ei ‘Contract â Chymru’, sef cyfres o addewidion, ac mae’r cytundeb yn “addo dod â’r holl gyfyngiadau symud i ben yng Nghymru”.

Mae’r mater yn brif bwnc ar wefan y Blaid, sy’n dweud ei bod hi’n “amser datgloi Cymru”.

“Dw i ddim isio rhuthro i fewn iddo fo”

Fodd bynnag, mae Peter Read, ymgeisydd y blaid yn Nwyfor Meirionnydd, o’r farn y dylid codi rheolau “pan mae’n sâff”.

“Dw i’n dallt i lawr yng Nghaerdydd, ac ati, bydd isio i siopau ailagor a ballu,” meddai wrth golwg360. “A sgenna’ i’m problem, unwaith fydd pawb wedi cael y vaccine ac agor yn sâff.

“Dw i ddim isio rhuthro i fewn iddo fo [hynny yw, codi cyfyngiadau]. Ond dw i ddim isio deud yn groes i’n polisïau a phethau.

“Dw i ddim yn dallt pam na geith gyms eu hagor. Mae hynny’n rhan bwysig o mental health rhywun. Ac mae hynny’n rhywbeth mawr dw i isio mynd ar ei ôl hefyd – plant yn syffro mental health.

“Mae o’n drist ofnadwy, y pethau dw i wedi dod ar eu traws.”

Mae’r ‘Contract â Chymru’ yn nodi y bydd “campfeydd yn cael eu hailddosbarthu fel gwasanaethau hanfodol a byddant yn aros ar agor, fel y bydd ysgolion”.

Mae hefyd yn dweud y byddai coronafeirws yn cael ei ddelio ag ef trwy “senario lliniarol o fesurau ymbellhau cymdeithasol” ochr yn ochr ag ymdrech i gadw pobol fregus yn ddiogel y eu cartrefi.

Syniadau “tu allan i’r bocs”

Yn ôl y ‘Contract’, pe bai Propel yn dod i rym mi fyddai’n sicrhau bod Cymru’n manteisio ar ei chronfeydd nwy naturiol.

Hoffai’r blaid danio “diwydiant newydd gwerth £25 biliwn” i echdynnu cronfeydd nwy naturiol Cymru. A byddai hyn, meddai, yn “lleihau dibyniaeth ynni Cymru ar Qatar a Rwsia”.

Does dim nwy naturiol yng Ngwynedd, meddai Peter Read, felly fydd y sir ddim yn troi’n Texas fach yng Nghymru.

Mae’n egluro y byddai modd manteisio ar yr adnodd naturiol yn ne Cymru, ac mae’n pwysleisio nad ffracio sydd dan sylw.

“Mae angen i ni edrych tu allan i’r bocs,” meddai. “Mae Plaid wedi bod i lawr yn y Senedd yna ers 20 mlynedd.

“Ac maen nhw ond yn neidio allan o’r bocsys rhyw fis cyn yr elecsiwn, pob un tro, yn gaddo gwneud pob math o bethau. Mae pobol wedi cael llond bol ohono fo.

“Maen nhw’n gweld trwyddyn nhw i gyd. Gewn ni weld diwrnod yr elecsiwn. Efallai mai fi sydd yn rong.”

Pwy yw Peter Read?

Mae Peter Read yn 53 oed, cafodd ei eni a’i fagu yn Rhyd-y-clafdy, Pen Llŷn, ac mae bellach yn byw ym Mhentreuchaf.

Roedd yn rhedeg garej ym Mhwllheli am flynyddoedd tan iddo brofi damwain barcuta (hang-gliding) yn 1995 yn 28 oed. Yn ei eiriau ef mae’n “gaeth i gadair olwyn”.

Bellach mae’n gynghorydd llawn amser. Mae’n cynrychioli ward Abererch ar Gyngor Gwynedd, ac ef yw arweinydd Propel yno.

Cafodd ei ethol am y tro cyntaf yn 2007 yn gynghorydd Llais Gwynedd. Treuliodd rhyw ddeg mlynedd â’r blaid honno.

Ymgeiswyr Dwyfor Meirionnydd

Mae golwg360 wedi cysylltu â phob ymgeisydd yn Nwyfor Meirionnydd. Rhoddwyd sawl cynnig i Robert Glyn Daniels ond ni dderbyniwyd ymateb.

Mi fydd y wefan hefyd yn rhoi sylw i ymgeiswyr mewn etholaethau penodol eraill cyn yr etholiad.