Mi fyddai Llywodraeth Propel yn sicrhau bod Cymru’n manteisio ar ei nwy naturiol.

Dyma un o’r addewidion sydd wedi’u cyhoeddi gan y blaid wrth iddi lansio’i hymgyrch etholiadol. Gelwir yr addewidion yn “Gytundeb â Chymru”.

Hoffai’r blaid danio “diwydiant newydd gwerth £25 biliwn” i echdynnu cronfeydd nwy naturiol Cymru. Byddai hyn, meddai, yn “lleihau dibyniaeth ynni Cymru ar Qatar a Rwsia”.

Mae Propel hefyd yn addo dod â chyfnodau clo i ben, ac mae’n credu y dylid delio â’r argyfwng trwy ddibynnu ar bellhau cymdeithasol yn bennaf.

Byddai ysgolion yn aros ar agor, dan Lywodraeth Propel, ac mi fydd campfeydd yn cael eu hystyried yn safleoedd sy’n darparu gwasanaethau hanfodol.

Mae’r blaid hefyd yn addo sefydlu cyfansoddiad a fydd yn galluogi’r cyhoedd i danio refferenda. Dylai’r Prif Weinidog gael ei ethol, yn ôl y blaid.

Cytundeb â’r genedl

“Rwy’n falch o lofnodi’r Cytundeb â Chymru, fel y mae pob ymgeisydd Propel ledled y wlad,” meddai arweinydd y Blaid, Neil McEvoy.

“Bellach mae gan Propel gyfres o bolisïau i drawsnewid yn llwyr sut mae ein cenedl yn cael ei llywodraethu, gan greu cyfleoedd economaidd newydd sylweddol ar yr un pryd. Byddwn yn tyfu maint economi Cymru ac yn dod â chyfoeth newydd i’n gwlad.

“Bydd ein Cytundeb â Chymru yn arwain at gyfiawnder yn y farchnad dai, yn dod ag atebolrwydd cyhoeddus mawr ei angen, yn creu tegwch i deuluoedd a phlant ac yn rhoi pŵer yn nwylo pobl, yn hytrach na gwleidyddion.

“Mae Propel yn mynd i roi dewis go iawn i bobl Cymru yn yr etholiadau ym mis Mai.”

Plaid newydd

Plaid newydd yw Propel a’i sefydlwyd gan Neil McEvoy, Aelod o’r Senedd a gafodd ei wahardd o Blaid Cymru.

Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar Fai 6.