Mae’r DVLA yn gobeithio y bydd undeb yn “ystyried yr effaith niweidiol y mae gweithredu diwydiannol yn debygol o’i gael ar fodurwyr” oherwydd streic y mis nesaf.

Mae aelodau undeb Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau y (DVLA) yn Abertawe yn bwriadu mynd ar streic ddechrau’r mis nesaf.

Mae tua 6,000 o weithwyr yn gweithio i’r asiantaeth yn Abertawe. Fe fyddan nhw yn streicio o Ebrill 6-9.

Mae undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) wedi cyflwyno rhybudd o’r streic ddoe (Mawrth 23) yn dilyn pleidlais weithredu ddiwydiannol gyda 96% o blaid cefnogi ymgyrch o weithredu diwydiannol yn ôl yr undeb.

Mae’r aelodau yn pryderu am eu hiechyd a’u diogelwch yn dilyn mwy na 600 o achosion cadarnhaol o Covid-19 ar y safle ers mis Medi.

Dyma’r nifer fwyaf o achosion mewn unrhyw weithle yn y DU.

Ochr yn ochr â’r streic mae’r PCS yn galw am weithredu’n brin o streic, gyda gwaharddiad goramser yn dechrau ar Ebrill 10.

Sgyrsiau dwys

Mae’r undeb yn cynnal trafodaethau dwys gyda’r cyflogwr yr wythnos hon.

Fodd bynnag, mae’r DVLA yn honni eu bod wedi dilyn a gweithredu canllawiau Llywodraeth Cymruy ar bob adeg drwy’r pandemig.

Meddai llefarydd ar ran y DVLA: “Mae DVLA wedi dilyn a gweithredu canllawiau Llywodraeth Cymru ar bob adeg drwy’r pandemig wrth i ni weithio i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol.

“O ganlyniad i’r ystod eang o fesuriadau diogelwch sydd gennym mewn lle, dim ond 11 aelod o staff allan o 6000 o’r gweithlu sy’n hunan-ynysu ar hyn o bryd yn dilyn prawf positif. Mae’r rhain yn cynnwys staff sy’n gweithio o gartref.

“Byddwn yn parhau i gael trafodaethau â’r PCS, a gobeithiwn y byddant yn ystyried yr effaith niweidiol y mae gweithredu diwydiannol yn debygol o’i gael ar fodurwyr wrth i gyfyngiadau ddechrau codi.”

Dywed y PCS ei bod hi’n “hollbwysig bod cynifer o aelodau PCS â phosibl yn cael eu galluogi i weithio gartref ac nad yw’r rhai nad ydynt yn gallu gweithio gartref ond nad ydynt yn teimlo’n ddiogel yn y gweithle yn cael eu gorfodi i ddod i mewn.”

Dywedodd Mark Serwotka, Ysgrifennydd Cyffredinol PCS: “Mae angen i reolwyr DVLA roi’r gorau i ddiystyru diogelwch eu gweithwyr eu hunain oherwydd bod y gyfran Covid-19 yn rhy uchel.

“Mae’r ffaith bod aelodau’r PCS yn barod i gymryd camau streic digynsail yn dangos pa mor wael y mae rheolwyr DVLA wedi methu yn eu cyfrifoldeb i gadw staff yn ddiogel.

“Y dewis olaf yw mynd ar streic ond os bydd y rheolwyr yn parhau i ddiystyru diogelwch gweithwyr . . .  ni fyddwn yn cael unrhyw ddewis arall.”