Bydd safleoedd naturiol gwarchodedig a chynefinoedd bywyd gwyllt hanfodol Cymru yn cael hwb o £9.8 miliwn.

Golyga’r cyllid, a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru heddiw (Mawrth 24), fod cymorth yn cael ei roi i rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion mwyaf poblogaidd Cymru.

Bydd yr arian yn gwella safleoedd naturiol gwarchodedig Cymru, safleoedd sy’n gartref i rywogaethau fel y dyfri, y dolffin trwyn potel, a’r morlo llwyd. Maent yn gynefinoedd i nifer o adar, megis pâl yr Iwerydd sydd mewn perygl difrifol, yn ogystal ag i rywogaethau llai adnabyddus fel y planhigyn petallys, a’r falwoden troellen.

Bydd Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol yn gweinyddu’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, gan ddarparu grantiau rhwng £50,000 a £500,000 i brosiectau sy’n gwella cyflwr a chysylltedd safleoedd gwarchodedig Cymru.

Mae’r safleoedd gwarchodedig yn darparu lefel uchel o ddiogelwch i bron i 70 rhywogaeth, a mwy na 50 math o gynefinoedd sy’n wynebu bygythiad.

Yn ogystal â chyfrannu at economi Cymru trwy dwristiaeth hamdden, ffermio, pysgota, a choedwigaeth, maen nhw’n darparu gwasanaethau cynnal bywyd hanfodol trwy buro dŵr yfed a storio carbon.

Bydd y cynllun Cronfa Rhwydweithiau Natur yn cefnogi gwaith fel creu neu gael gwared ar goetiroedd; rheoli rhywogaethau goresgynnol; gwneud gwelliannau i ansawdd dŵr; adfer cynefinoedd a chreu swyddi gwyrdd.

Ddechrau’r wythnos, fe wnaeth Plaid Cymru ddweud “nad yw dull presennol Llywodraeth Cymru o adfer natur yn ddigon,” gan ddweud y bydden nhw’n cyflwyno Deddf Natur “arloesol” i fynd i’r afael â’r “argyfwng bioamrywiaeth” petai’r blaid yn yr etholiad ym mis Mai.

Cyllid i “adeiladu gwell gwytnwch yn erbyn newid hinsawdd”

“Mae Cymru â gweddill y byd yn wynebu argyfwng natur gyda chyflwr ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd naturiol yn dirywio gan fygwth difodiant i rai o’n rhywogaethau mwyaf eiconig,” meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Llywodraeth Cymru.

“Mae’r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu i’r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn gam hanfodol wrth amddiffyn ac adfer yr ardaloedd hyn a’n helpu i gryfhau rhwydweithiau ecolegol gwydn.

“Mae hyn yn rhoi gwell cyfle i ni fwynhau ac i’n lles meddyliol elwa o ein bywyd gwyllt a’n amgylched naturiol hardd heddiw ac i’r dyfodol. Mae’n golygu bod y gwasanaethau y mae natur yn eu darparu i ni yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt – fel dŵr glân ac aer – yn cael eu diogelu’n well,” esbonia Lesley Griffiths.

“Ac mae’n golygu y gallwn ni, a phopeth byw yng Nghymru, adeiladu gwell gwytnwch yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

“Mae lleoedd fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn hynod bwysig i fywyd gwyllt a threftadaeth naturiol Cymru.

“Maen nhw’n gonglfeini i’n gwaith adfer natur, ac maen nhw’n amddiffyn ystod, ansawdd ac amrywiaeth rhai o’n rhywogaethau pwysicaf,” pwysleisia.

“Edrychaf ymlaen at weld y prosiectau cyffrous sy’n codi o’r gronfa sydd – ochr yn ochr â’r gwaith arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, yn adeiladu adferiad gwyrdd ac iach o coronafeirws.”

Buddion uniongyrchol i iechyd a lles cymunedau

Wrth groesawu’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, dywedodd Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, Andrew White, bod y “safleoedd gwarchodedig yn chwarae rhan hanfodol wrth wyrdroi effeithiau newid yn yr hinsawdd.

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi adferiad gwyrdd Cymru drwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur.

“Bydd y Gronfa Rhwydweithiau Natur hefyd yn cefnogi cymunedau yn y safleoedd gwarchodedig ac o’u cwmpas i gymryd rhan yn y gwaith hanfodol hwn.

“Bydd cymryd rhan yn rhoi buddion uniongyrchol i iechyd a lles y cymunedau hyn ynghyd â gwella gwytnwch y safleoedd,” meddai.