Mae’r pandemig “wedi agor llygad lot o bobol” i’r posibilrwydd o annibyniaeth i Gymru, yn ôl ymgeisydd Llafur yn Nwyfor Meirionnydd.

Mae Cian Ireland ei hun am i Gymru fod yn wlad annibynnol, ac mae’n cyfri ei hun ymhlith y bobol rheiny sydd wedi profi tröedigaeth yn ystod yr argyfwng Covid.

“Dw i’n credu bod y pandemig wedi really dangos y gwahaniaeth rydan ni’n medru gwneud yng Nghymru o gymharu â Lloegr,” meddai wrth golwg360.

“Ac mae hynna wedi agor llygaid lot o bobol i beth rydan ni’n medru gwneud yng Nghymru ei hun. I fi, hynna wnaeth agor fy llygaid i.

“Cyn hynna doeddwn i erioed wedi meddwl gormod am constitutions a phethau fel’na.

“Dw i wedi bod efo mwy o ddiddordeb mewn problemau economaidd a chymdeithasol. A dw i’n dal isio canolbwyntio ar hynna. Ond, i fi, dw i wedi ailfeddwl sut dw i’n edrych ar bethau.”

Mae’n dweud bod “lot o symudiad” wedi bod oddi fewn i’r Blaid Lafur “dros y flwyddyn ddiwethaf” – hynny yw, mae’n credu bod agweddau Llafurwyr at annibyniaeth yn cynhesu.

Mae Cian Ireland ymhlith tri o ymgeiswyr Llafur sydd yn cefnogi annibyniaeth: Ben Gwalchmai (Canolbarth a Gorllewin Cymru) , a Dylan Lewis-Rowlands (Ceredigion) yw’r ddau arall.

Sosialaeth yng Nghymru

Dyw cefnogaeth at annibyniaeth ddim yn safiad prif ffrwd oddi fewn i’r Blaid Lafur, ac mae cefnogaeth gynyddol oddi fewn i’r blaid honno tuag at ffederaliaeth.

Tybed a yw Cian Ireland yn feirniadol o’r safiad hwnnw?

“A dweud y gwir mae lot ohonom ni eisiau’r un pethau – jest mae gennym ffyrdd gwahanol o gyrraedd hynna,” meddai.

“Rydan ni i gyd, dw i’n meddwl, eisiau gweld hunanlywodraeth Cymreig. Ac rydan ni eisiau gweld mwy o hynna. Ac rydan ni isio sustem sy’n gadael i ni greu sosialaeth yng Nghymru.

“Dw i jest yn credu ein bod yn dod at bethau, ac yn meddwl am bethau mewn ffyrdd gwahanol. Mae gennym lot o’r un syniadau.

“Rydan ni eisiau cyrraedd yr un gôl. Jest ffordd wahanol o’i gyrraedd o ydy o a deud y gwir.”

“Eglwys eang” Llafur Cymru

Yn siarad â Golwg fis diwethaf dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru, mai “eglwys eang” yw Llafur Cymru, ac awgrymodd bod yna le am wahaniaeth barn.

Mae Cian Ireland yn teimlo bod yna groeso i’w safiad yntau, ac mae’n teimlo bod “lot fwy o drafodaeth wedi bod” am annibyniaeth oddi fewn i Lafur Cymru na Llafur yr Alban.

“Chwarae teg i’r blaid [yng Nghymru] maen nhw wedi gadael i ni gael lle i gael y drafodaeth yna,” meddai.

“Mae trafodaeth yn rhywbeth really pwerus. Mae’n gadael i bobol feddwl am syniadau newydd. Mae’r syniadau gorau yn dod allan o drafodaeth yn fy marn i.

“Felly dw i’n credu efallai ein bod ni wedi gweld hynna yn y blaid yn barod.

“Gobeithio gewn ni gario ‘mlaen mewn ffordd ddemocrataidd i ddod i benderfyniadau am syniadau newydd a symud ymlaen ar hyn.”

Pwy yw Cian?

Mae Cian Ireland yn 20 oed, ac mae’n dod o Lanaelhaearn ym Mhen Llŷn.

Mae ar ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Stirling, ac mae’n astudio Hanes. Fe yw Trysorydd Mudiad Myfyrwyr Llafur yr Alban.

Ymgeiswyr Dwyfor Meirionnydd

Mae golwg360 wedi cysylltu â phob ymgeisydd yn Nwyfor Meirionnydd. Rhoddwyd sawl cynnig i Robert Glyn Daniels ond ni dderbyniwyd ymateb.

Mi fydd y wefan hefyd yn rhoi sylw i ymgeiswyr mewn etholaethau penodol eraill cyn yr etholiad.