Mae wedi dod i’r amlwg bod rhagor o wynebau cyfarwydd am roi’r gorau i’w gyrfaoedd ym Mae Caerdydd.

Wedi degawdau o gynrychioli’i sedd yn Sir Ddinbych mae Ann Jones, AoS Llafur a’r Dirprwy Lywydd, wedi cyhoeddi y bydd yn camu o’r neilltu.

“Mae gwasanaethu yn gynrychiolydd cyntaf etholaeth Dyffryn Clwyd yn y Senedd wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd,” meddai.