Dau ddyn. Un o Ben-y-bont ar Ogwr. Y llall o’r Amwythig.

Y ddau’n 46 oed.

Un, y Cymro, yn gweithio i gwmni trwsio offer electronig ac yn ddyn “teyrngar, doniol ac unigryw”.

Y llall, y Sais, yn artist “caredig ond swil”.

Er nad oedd y naill yn adnabod y llall, daeth hanes Anthony Williams a Gary Matthews ynghyd yn y papurau newydd dros y penwythnos.

Hanes dau unigolyn, o blith dros gan mil o bobl y mae Covid-19 wedi eu lladd hyd yn hyn ym Mhrydain.