Syml a di-ffws ydy steil yr actores a pherchennog PostPeg, sy’n gwerthu cardiau a phrintiau Cymraeg. Mae hi’n byw yn y Fforest ger Pontarddulais gyda’i gŵr, yr actor Gwydion Rhys, a’u dau fab, Walter a Wilbert…

Steil – Mae fy steil yn syml, rhwydd, less is more. Er cymaint dw i wrth fy modd ag ambell owtffit dw i’n dod ar ei draws, a swnian ‘pam nad ydw i’n gallu cael steil honna?’, bydda i wastad yn cael pobol yn dweud wrtha i mai dyna’r union steil sydd gen i’n barod. Mae hyn falle’n profi fy mod mor gyfforddus yn fy nillad, mae’r steil benodol yn cael ei chreu’n naturiol heb feddwl. Yr ateb yw cadw pethe’n syml a pheidio trïo’n rhy galed.

Ynghanol y mwd a’r paent
Dw i’n cysgu yn fy wellies! Dw i’n berson sydd yn gwisgo’n gyfforddus ac yn syml erioed. Does gen i ddim dillad penodol ar gyfer achlysuron gwahanol – mae’r cyfan mewn un cwpwrdd drwy’r trwch, fel bydden ni’n ddweud. Yr unig beth sydd wedi newid yw nifer y dillad dw i’n gwisgo, gan mai ynghanol y mwd a’r paent yn diddanu’r plantos dw i’n treulio fy nyddie bellach. Mae’r cyfan yn “ddillad pob dydd” erbyn hyn.

Di-ffws

Pan oeddwn i’n ifanc iawn ro’n i wrth fy modd yn gwisgo lan a chreu sioeau ffasiwn gyda fy chwiorydd. Ond ges i ddim fy magu i ddilyn ffasiwn o gwbl, a dweud y gwir, a bydden i byth hyd heddiw yn dweud bod fi’n berson ‘ffasiynol’ sy’n cadw gyda’r trends diweddara. I’r gwrthwyneb mewn ffordd, dyw fy steil i ddim wedi newid o gwbl. Dw i wastad wedi dwli ar ddillad syml, earthy a phlaen iawn, ac mae’r cwpwrdd yn orlawn gyda siwmperi. Prin iawn wnewch chi weld fi mewn lliwiau llachar ysgafn oni bai am wyn neu lwyd.
Bydden i’n dweud bod fy steil i’n unigryw i fi ac yn adlewyrchu pa mor ddi-ffws, syml a chartrefol ydw i fel person. Mae pob dilledyn ac esgid dw i’n berchen wedi dod o Primark, George at Asda neu H&M. Dw i’n hawdd fy mhlesio!

Siwmperi sy’n matsho
Pan dw i’n meddwl am ddillad yn fy mhlentyndod, yr atgof cyntaf sy’n dod i’r meddwl yw Mam yn ein gwisgo ni gyd mewn matching outfits fel ei fod yn hawdd iddi ddisgrifio ni petai un ohonom yn mynd ar goll! Dw i union yr un peth gyda’r bois – er nad oes gobaith caneri o’u colli, gan mai o fewn yr un pedair wal yr ydyn ni wedi bod dros y flwyddyn ddiwetha’. Ond dw i wrth fy modd yn eu gweld nhw mewn siwmperi gwlân sy’n matsho… ciwt iawn.

Blows patrymog Mam-gu
Hen flowsen patrymog Mam-gu yw’r dilledyn mwyaf arbennig sydd ‘da fi. Hon fydda i yn gwisgo i fwyafrif fy nghlyweliadau a phryd bynnag fydda i yn gwisgo lan ar gyfer rhyw achlysur.

Satchel lledr
Des i ar draws y satchel bach lledr mwya’ ciwt mewn siop elusen flynyddoedd yn ôl wrth ffilmio yn y Bontfaen. Mae hanes yn perthyn iddi a hon fydda’ i’n gwisgo’n ddyddiol at unrhyw achlysur. Dw i methu aros i Walter a Wilbert ei wisgo i’r ysgol mewn rhai blynyddoedd. Dw i ond yn prynu bagiau sydd â strap hir, dros yr ysgwydd – byth clutch neu handbag.
Dw i ddim yn berchen ar lot o esgidiau. Pâr o wellingtons, bŵts cadarn ac esgidiau hen ffasiwn eu golwg. Syml a rhad.

Gwallt gwyllt

Mae cywilydd ’da fi ddweud, ond dw i ddim yn un da am ofalu ar ôl fy edrychiad a rhoi’r gofal a’r TLC sydd ei angen arna i. Dw i’n cael pwl bach bob dwy flynedd adeg yr Hydref pan dw i’n ffed-yp ac yn ysu i dorri fy ngwallt yn fyr. Hwn yw’r unig dro fydda’ i’n ymweld â’r salon. Mae bywyd ei hunan gyda’r gwallt gwyllt yma a mond i fod e mas o’r ffordd, dw i’n hapus. Os dw i’n lwcus a bod dwy law yn rhydd ’da fi, wna i osod sgarff Mam-gu ynddo. A dyna ni rili!

Colur sy’n cwato lot o bechode!

Y llynedd yw’r tro cyntaf i fi fynd yn ddyddiol heb unrhyw golur a, bobol bach, erbyn hyn dw i wedi mynd i deimlo ac edrych yn hen, felly mae rhoi bach o slap ymlaen o dro i dro erbyn hyn yn drît ac yn cwato lot o bechode!  Colur syml, syml dw i’n ddefnyddio… tipyn bach o foundation, blusher, masgara a gwd brwshad i’r eyebrows.

Watsh hen Dat-cu
Dw i ddim yn berson gemwaith o gwbl. Yr unig beth dw i’n gwisgo yw modrwyau wrth y gŵr, a watsh hen Dat-cu. Ma ’da fi bum twll yn fy nghlustie, ond anaml iawn dw i’n gwisgo gemwaith ynddyn nhw. Mae gen i froetsh arbennig sydd wedi cael ei phasio drwy’r teulu yn dweud ‘mother’ ges i wrth Mam wedi genedigaeth fy mab cyntaf, Walter. Mae hon yn dod mas ar achlysuron arbennig.

Beth fysech chi’n ei achub o’r wardrob mewn argyfwng?

Cot wlân fowr… mae’n gysurus, yn gyfforddus ac eto’n cwato lot o bechode!