Mae’r heddlu wedi arestio dyn ar ôl i dîm difa bomiau y Fyddin daclo eitem “amheus” ar dir Palas Holyroodhouse, cartref swyddogol y Frenhines yng Nghaeredin.

Fe wnaeth y tîm gwaredu bomiau wneud yr eitem yn ddiogel wedi iddyn nhw gael eu galw yno neithiwr.

Dywedodd Heddlu’r Alban bod dyn 39 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Cawsom ein galw i Balas Holyroodhouse, Abbey Strand, Caeredin, tua 8.50yb ddydd Mawrth, Mawrth 23, yn dilyn adroddiad o eitem amheus.

“Yn dilyn archwiliad gan ddyfais waredu ffrwydrol (EOD), fe’i gwnaed yn ddiogel.

“Mae dyn 39 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad. Doedd dim bygythiad i’r cyhoedd ac mae ymholiadau’n parhau i’r amgylchiadau llawn.”