Mae ymgeisydd Ceidwadol wedi dileu fideo ohoni’i hun yn esgus cyfweld â dau ffigwr amlwg ym myd chwaraeon.

Mae Natasha Asghar yn ail ar restr y Ceidwadwyr yn rhanbarth Dwyrain De Cymru ar gyfer etholiad y Senedd, ac mae hefyd ganddi sianel YouTube personol lle mae’n sôn am berthnasau ac ati.

Yn y fideo dan sylw, roedd yna gyfres o gyfweliadau gan gynnwys ffug-gyfweliadau â’r cricedwr Sachin Tendulkar, a’r pêl-droediwr, David Beckham.

Mae’n debyg nad yw’r fideos yn ei gwneud yn glir mai hi sydd wedi golygu’r clipiau i ymddangos fel mai hi sydd yn eu cyfweld.

Mae adroddiad gan y BBC yn datgelu mai’r gorfforaeth wnaeth ffilmio’r deunydd o gyfweliad Sachin Tendulkar, ac ni roddwyd caniatâd i’w ddefnyddio.

Roedd Sky Sport News ynghlwm â ffurfio deunydd y pêl-droediwr, mae’n debyg.

Doedd Natasha Asghar ddim wedi bwriadu camarwain, roedd hi wedi creu’r fideo er mwyn arddangos ei gwaith cyflwyno, a doedd hi ddim yn ymwybodol bod y cyhoedd yn medru ei weld, yn ôl adroddiadau.

Mae golwg360 wedi cysylltu â’r ymgeisydd yn uniongyrchol am sylw.

Natasha Asghar yw merch y diweddar Mohammad Asghar, Aelod Ceidwadol o’r Senedd Dwyrain De Cymru hyd at 2020.